Croeso i wefan Capel Penygraig
Rydym wedi ail-agor y Capel yma ym Mhenygraig ac fe gynhelir oedfaon gan ddilyn y trefn oedfaon o dan penawd Capel. Mae’n braf i gael bod nôl yng nghwmi’n gilydd ac mae croeso cynnes i chi ymuno â ni a byddai’n dda i gael eich cwmni.
Cofiwch gysylltu â ni os ydych angen unrhyw gymorth neu sgwrs – mae manylion cyswllt ar tudalen Cysylltu.





Mae Penygraig fel mae’r enw yn awgrymu, yn sefyll ar fryn amlwg rhwng Cwmffrwd a Chroesyceiliog, Sir Gaerfyrddin, ac fe ellir gweld y capel wrth deithio o Gaerfyrddin i Gydweli.
Rydym yn griw cynnes a chroesawgar sy’n cynnal oedfa bob bore Sul ac Ysgol Sul ar Sul cynta’r mis a daw’n haelodau o ardal eang gan gynnwys Cwmffrwd, Croesyceiliog, Idole, Llansaint a Chaerfyrddin.
Cawn sgyrsiau difyr a hwyl yn ein Cymdeithas Ddiwylliannol sy’n cwrdd bob pythefnos rhwng Medi ag Ebrill a chynhelir Gwasanaeth Plygain traddodiadol ar yr ail Sul ym mis Rhagfyr yn flynyddol. Rydym yn falch iawn, fel capel, i gasglu a chyfrannu arian at amrywiol elusennau lleol a chenedlaethol .
Rydym yn gapel bywiog sy’n ceisio ymestyn allan i’r gymuned o’n cwmpas drwy weithgareddau sy’n dod â ni yn agosach at ein gilydd ac yn estyn llaw i’n cymdogion.
Beth am ddod draw atom? Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.

Mewn côr a’i ddrws agored – ar y graig
Y mae’r Groes i’w gweled,
A gair Un trwy’r lle yn gred
Ac emynau’n gymuned.
Geraint Roberts
Hawlfraint – Eglwys Annibynnol Capel Penygraig. Gwefan gan Mesen.