Capel Penygraig

Newyddion y Capel: 2018

Rhagfyr 2018
Cynhaliwyd ein Gwasanaeth Diolchgarwch ar ddechrau mis Hydref 16eg gyda’r Parchedig Carys Ann, Rhydlewis yn bregethwr gwâdd. Roedd y rhannau arweiniol dan ofal y Parchedig Meirion Sewell a’r casgliad tuag at Ambiwlans Awyr a chafwyd gwasanaeth bendithiol iawn.

Llongyfarchiadau i Lyn Evans, Nantoer ar enedigaeth ei gor-wyres, Magdalen Elizabeth yn ystod mis Tachwedd.

Hydref 2018
Llwyddiant

Dros yr haf bu nifer o’n pobl ifanc o’r colegau yn dathlu ennill graddau. Dymuniadau gorau a llongyfarchiadau i Manon ac Aled, Ochr y Cwm ac Enlli Lewis, Moelfre, Croes-y-ceiliog ac i Iestyn Phillips, Fferm y Cwm, Cwmffrwd. Braf deall eu bod yn parhau â’u hastudiaethau yn ystod y tymor newydd.

Huw John
Mewn oedfa arbennig ym mis Gorffennaf bu aelodau’r capel yn talu teyrnged ac yn diolch i Huw John am ei gyfraniad arbennig i’r eglwys dros gyfnod hir o amser. Mae ei gyfraniad fel diacon ac arweinydd y gân yn un clodwiw iawn ac felly hefyd ei gyfnod fel ysgrifennydd. Cyflwynwyd rhodd ariannol ac englyn wedi ei fframio i Huw ar ran yr aelodau wrth iddo ildio’r swydd fel ysgrifennydd oherwydd anhwylder.

Mehefin 2018
Ar ddydd Sul, Mai 20fed daeth aelodau o gapeli Philadelphia a Rama i Benygraig i ddathlu gwasaneth Gŵyl y Gwanwyn. Thema’r oedfa eleni oedd ‘Anfon fi’ a chawsom ein hatgoffa am gyfraniad y cenhadon Thomas Bevan a David Jones a ymfudodd o gapel Neuaddlwyd, ger Aberaeron i Ynys Madagascar. Eleni gan ein bod yn dathlu dau canmlwyddiant yr achlysur cynhelir dathliadau arbennig yn Aberaeron a lansio Apêl Madagascar yn ystod mis Mehefin.

Bethan a Gruff

Priodas
Llongyfarchiadau i Bethan a Gruff ar eu priodas ar Fai 12fed yng Nghapel Penygraig yng ngofal y Gweinidog , y Parch Meirion Sewell. Mae Bethan Mair yn ferch i Dorian a Lynne Phillips, Fferm y Cwm, Cwmffrwd a Gruffydd Wyn yn fab i Wyn ac Eleri Evans, Fferm Trefynys, Peniel. Roedd Lora chwaer Bethan, a Caryl chwaer Gruffydd yn brif forwynion priodas a Simon Evans a Mathew Jones oedd y gweision priodas. Wedi’r gwasanaeth cynhaliwyd y wledd briodas ym Mhant yr Athro, Llansteffan. Dymunwn y gorau i’r ddau yn eu bywyd priodasol.

Mai 2018
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Yvonne Lewis ar ddathlu penblwydd arbennig yn ystod mis Ebrill.

Mawrth 2018
Cydymdeimlwn â theulu Mrs Elizabeth Davies, Craigfryn, Croes-y-ceiliog, gynt o Gwmffwrd wrth iddynt golli mam, mamgu, hen famgu a hen hen famgu annwyl iawn. Ym mis Ebrill y llynedd dathlodd ei phenblwydd yn gant oed gyda’i theulu a’i pherthnasau. Bu’n aelod ffyddlon yn y capel ar hyd y blynyddoedd ac yma ar y cyntaf o Chwefror cynhaliwyd ei hangladd dan ofal ei Gweinidog y Parch Meirion Sewell. Bydd bwlch mawr ar ei hôl yn y capel hwn ac ar aelwyd Craigfryn lle cafodd ofal arbennig. Boed bendith Duw arnoch fel teulu.

Gwellhad buan – Braf clywed bod Huw John wedi dychwelyd gartref ar ôl triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar a’i fod yn gwella.

Ionawr 2018
Cynhaliwyd Cwrdd Chwarter Cyfundeb y Gorllewin o Undeb yr Annibynwyr yng Nghapel Penygraig ar Dachwedd 23ain. Yn y bore, cafwyd anerchiad difyr gyda lluniau am hanes Y Tyst yn 150 oed gan Alun Lenny, ac anerchiad hynod ddiddorol am hanes Martin Luther gan y Parchg Ddr Alun Tudur, Caerdydd ar achlysur dathlu Pumcanmlwyddiant y Diwygiad Protestannaidd. Yn dilyn cinio a ddarparwyd gan aelodau Penygraig, daeth Joan Thomas i Gadair y Cyfundeb am 2018 yn y cwrdd prynhawn. Bu Joan gyda’r mwyaf ffyddlon ei gwasanaeth i’r Cwrdd Chwarter ers blynyddoedd a dymunwn bob bendith iddi yn ei swydd.
 
Yn sgîl y newyddion bod Huw John wedi gorfod rhoi’r gorau i’w swydd fel Ysgrifennydd Capel Penygraig oherwydd anhwylder, penodwyd Meinir James yn ei le. Bydd Meinir yn gweithredu fel Ysgrifennydd swyddogol y Capel gyda chefnogaeth tîm o ddiaconiaid a swyddogion eraill. Mae ein dyled yn fawr i Huw am ei holl waith dros nifer o flynyddoedd gan wybod bydd aelodau’r eglwys yn parhau’n weithgar dros yr achos ym Mhenygraig.

Plygain Traddodiadol
Ar nos Sul, Rhagfyr 10fed cynhaliwyd y Plygain yng Nghapel Penygraig dan lywyddiaeth Elfyn Williams. Daeth nifer o gantorion o bell ac agos i gymryd rhan ac i’n diddori gyda’u dewis o garolau traddodiadol ac i offrymu mawl i’r Iesu a ddaeth i’n plith ac i’n hatgoffa am wir ystyr y Nadolig. Roedd casgliad ar y noson tuag at Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol. Diolchwyd i Huw John am yr holl drefniadau ac i’r aelodau a fu’n paratoi lluniaeth yn y festri yn dilyn yr oedfa.