Plygain Traddodiadol
Cynhelir Gwasanaeth Plygain Traddodiadol yng Nghapel Penygraig, Croes-y-ceiliog ar Ragfyr 8fed am 6.30 yr hwyr. Bydd croeso cynnes i bawb, yn garolwyr a gwrandawyr, gyda swper i ddilyn.
Oedfa aelodau
Oedfa aelodau a gynhaliwyd ar Dachwedd 10fed, sef Sul y Cofio. Thema’r gwasaneth eleni oedd Tangnefedd, a chafwyd oedfa fendithiol gyda phob aelod oedd yn bresennol yn cyfrannu.
Gorffennaf 2019
Yn ystod mis Mai cynhaliwyd dau ddigwyddiad blynyddol, sef Gwasanaeth Cymorth Cristnogol yng Nghapel Banc-y-capel ar Fai’r 12fed a Gŵyl y Gwanwyn yn Philadelphia, Nantycaws ar Fai’r 19eg. Dechreuodd gweithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol yn y cylch gydag oedfa gyd-enwadol yng Nghapel Bancycapel ar b’nawn Sul 12 Mai. Roedd yn oedfa hyfryd yn cael ei arwain gan y Parchg. Nicholas Bee a’i gynorthwyo gan Catrin Hampton a chymerwyd rhan gan aelodau o Eglwysi Santes Anne (Cwmffrwd), Eglwys Llandyfaelog, Capel Rama, Capel Bancycapel a Chapel Penygraig. Roedd yn braf cael cyfle am baned a sgwrs wedi’r oedfa. Roedd nifer o aelodau Penygraig ymhlith y casglwyr lleol fu’n mynd o dŷ i dŷ ym Mancycapel, Croesyceiliog, Idole, Pentrepoeth a Chwmffrwd yn ddiweddar i godi arian at brosiectau i gynorthwyo gofal a iechyd mamau a’i babanod yn Sierra Leone. I ddarllen manylion pellach am waith Cymorth Cristnogol ewch i’w Gwefan – https://www.christianaid.org.uk/get-involved-locally/wales/cymru
Diolch i bawb am eu presenoldeb ac yn arbennig i’r rhai fu’n rhan o’r cyflwyniadau.
Cofiwch am drefniadau Gorffennaf 7fed pan fyddwn ar ôl oedfa a chymundeb o dan ofal y Parch Meirion Sewell yn ymuno gydag aelodau Rama am ginio yn y Llew Coch, Llandyfaelog fel rhan o’n hymgyrch i godi arian at Apêl Madagascar. Cysylltwch gydag aelod o’r capel os ydych am wybodaeth bellach.
Adferiad buan a llongyfarchiadau
Anfonwn ein dymuniadau gorau i’r aelodau sy’n dioddef salwch ar hyn o bryd. Yn ddiweddar daeth y newyddion fod Owen Evans, Nantycaws wedi cael triniaeth pellach yn Ysbyty Glangwili. Dymunwn yn dda iddo fe a Heuddwen a braf deall eu bod wedi croesawu wyres arall i’r teulu. Llongyfarchaidau i Rhys ac Amy ar enedigaeth Nahla ar Fai 17eg.
Cydymdeimlad
Anfonwn ein cydymdeimlad fel eglwys at deulu Eirwen ac Adrian Nicholls gan i Adrian golli ei fam yn ddiweddar.
Mai 2019
Dechreuodd gweithgareddau Wythnos Cymorth Cristnogol yn y cylch gydag oedfa cyd-enwadol yng Nghapel Bancycapel ar b’nawn Sul 12 Mai. Roedd yn oedfa hyfryd yn cael ei arwain gan y Parchg. Nicholas Bee a’i gynorthwyo gan Catrin Hampton a chymerwyd rhan gan aelodau o Eglwysi Santes Anne (Cwmffrwd), Eglwys Llandyfaelog, Capel Rama, Capel Bancycapel a Chapel Penygraig. Roedd yn braf cael cyfle am baned a sgwrs wedi’r oedfa. Bydd nifer o aelodau Penygraig ymhlith y casglwyr lleol fydd yn mynd o dŷ i dŷ ym Mancycapel, Croesyceiliog, Idole, Pentrepoeth a Cwmffrwd yr wythnos hon i godi arian at brosiectau i gynorthwyo gofal a iechyd mamau a’i babanod yn Sierra Leone. I ddarllen manylion pellach am waith Cymorth Cristnogol ewch i’w Gwefan – https://www.christianaid.org.uk/get-involved-locally/wales/cymru
Ebrill 2019
Cynhaliwyd bedydd Morys Llywelyn Roberts, mab Llŷr a Rhian Roberts, a brawd bach Leisa Gwen, yn ystod y gwasanaeth ar Fawrth 10fed o dan ofal y Parch Towyn Jones.
Mawrth 2019
Mae rhai o’n haelodau wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar. Treuliodd Irfon Evans, Brynaeron gyfnod yn Ysbyty Glangwili a bu Islwyn Lewis, Llety’r Haul yn cael triniaeth ar y galon yn Ysbyty Treforus a da yw deall eu bod ar wellhad bellach.
Cyfarchion Penblwydd
Dymuniadau gorau i Lyn Evans, Nantoer, Llansaint ar ddathlu ei phenblwydd yn 94 oed ar Chwefror 2il ac i Elizabeth Jeremy (Sister Jeremy) ar ei phenblwydd yn 80 oed ar Chwefror 13eg.
Genedigaeth
Llongyfarchiadau i Dilwyn a Gwenda Davies, Ael-y-fro ar enedigaeth ŵyr bach ar Ionawr 27ain ac i’r Parchedig Meirion ac Ann Sewell ar enedigaeth gorwyres ar Chwefror 7fed. Dymuniadau gorau i’r ddau deulu.
Chwefror 2019
Dymuniadau gorau
Braf nodi bod Ann Sewell ar wellhad wedi cyfnod yn Ysbyty Glangwili. Mae Anthony Jarvis hefyd wedi cael triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar ac yn cael gofal gan ei deulu yn Ffrwd Wen, Cwmffrwd. Brysiwch i wella’n llwyr yw’r neges wrth drigolion y fro.
Roedd hi’n benblwydd arbennig ar Gwyn Jones, Maes Dolau ar Ionawr 15fed a dymunwn y gorau iddo i’r dyfodol.
Ionawr 2019
Plygain Traddodiadol
Ar nos Sul, Rhagfyr 9fed cynhaliwyd y Plygain yng Nghapel Penygraig dan lywyddiaeth Y Parch Meirion Sewell. Daeth nifer o gantorion o bell ac agos i gymryd rhan ac i’n diddori gyda’u dewis o garolau traddodiadol ac i offrymu mawl i’r Iesu a ddaeth i’n plith ac i’n hatgoffa am wir ystyr y Nadolig. Roedd casgliad ar y noson tuag at Gyfeillion Ysbyty Glangwili. Diolchwyd i Huw John am yr holl drefniadau ac i’r aelodau a fu’n paratoi lluniaeth yn y festri yn dilyn yr oedfa.
Lluniau : Rhai o bartion canu Plygain Capel Penygraig.


