Capel Penygraig
Ar ddydd Sul, Gorffennaf 7fed ar ôl oedfa a chymundeb o dan ofal y Parch Meirion Sewell bu aelodau capeli Penygraig a Rama am ginio yn y Llew Coch, Llandyfaelog fel rhan o’n hymgyrch i godi arian at Apêl Madagascar. Mae’r lluniau yn dangos yr aelodau yn aros yn eiddgar am y cinio blasus.
Mae’r llun isod yn dangos ein Gweinidog, Y Parch Meirion Sewell, yn cyflwyno englyn fel rhodd i Bryan Thomas, Gellionnen ar achlysur ei ddychafu yn Llywydd Cymdeithas Holstein UK mewn cinio arbennig yng Ngwesty Parc y Strade ar Orffennaf 3ydd. Dymunwn yn dda i Bryan yn ei flwyddyn mewn swydd.
I gyfarch Bryan Gelliddu
ar ei ddyrchafu’n Llywydd Holstein UK,
Gorffennaf 3ydd, 2019
Er clywed clôs y gwledydd – yn cynnal
acenion y meysydd,
un heno â’i ffermio’n ffydd
yn lleol yw eu Llywydd.
Geraint Roberts