Plygain Traddodiadol
Ar nos Sul, Rhagfyr 8fed cynhaliwyd y Plygain yng Nghapel Penygraig dan lywyddiaeth Elfyn Williams. Daeth nifer o gantorion o bell ac agos i gymryd rhan ac i’n diddori gyda’u dewis o garolau ac i offrymu mawl i’r Iesu ac i’n hatgoffa am wir ystyr y Nadolig. Roedd casgliad ar y noson tuag at Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2021. Diolchwyd i Huw John am yr holl drefniadau ac i’r aelodau a fu’n paratoi lluniaeth yn y festri yn dilyn yr oedfa.