Canllawiau Diogelwch

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb bydd rhaid i ni gydymffurfio gyda chyfyngiadau gofynion diogelu cymdeithasol i leihau unrhyw risg a bydd y swyddogion yn sicrhau bydd y camau priodol yn cael eu cymryd wrth baratoi’r capel i ail-agor a’ch croesawu.

Yn naturiol, bydd rhai pethau yn wahanol wrth i chi ddod i Benygraig a hoffem dynnu eich sylw at y canlynol:

  • Bydd swyddogion y capel yn eich croesawu wrth y ddau fynedfa i’r capel a byddwch yn mynd mewn ag allan drwy yr un fynedfa.
  • Bydd hylif diheintydd dwylo ar gael wrth bob mynedfa i chi ei ddefnyddio cyn mynd i mewn i’r capel ag wrth ddod allan hefyd.
  • Bydd angen i chi wisgo mwgwd i ddod i’r capel a’i gadw ymlaen tra fyddwch tu fewn i’r adeilad.
  • Dim ond pobl o’r un cartref a ganiateir i eistedd gyda’i gilydd yn yr un sedd a bydd y swyddogion yn eich arwain i sedd fydd yn sicrhau y pellter cymdeithasol o 2m. Oherwydd hyn mae’n bosib na fydd modd i chi eistedd yn eich sedd arferol ond gofynnwn yn garedig am eich cydweithrediad a’ch amynedd gyda hyn. Ar ôl cyrraedd eich sedd dylech aros yno tan ddiwedd yr oedfa. Ar ddiwedd yr oedfa, dylai pawb adael cyn gynted ag y bo modd, mewn dull trefnus.
  • Gan na chaniateir canu cynulleidfaol ni fydd llyfrau emynau ar gael yn y capel.
  • Rydym yn eich cynghori i beidio dod ag un dim diangen i’r oedfa nac i adael dim byd ar eich hôl.
  • Bydd modd rhoi’ch cyfraniad yn y blychau wrth adael y capel ar ddiwedd yr oedfa. A wnewch chi roi pob cyfraniad mewn amlen yn nodi eich enw os gwelwch yn dda. Mae modd i gyfrannu trwy archeb banc hefyd fydd yn hwyluso gwaith y swyddogion – cysylltwch a Eirwen neu Elfyn am ffurflen.

Rwy’n siŵr y byddwn i gyd yn dod i arfer gyda’r ychydig o drefniadau gwahanol hyn ac mi fydd y croeso i chi yr un mor gynnes a chyfeillgar ag arfer.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn pellach, mae croeso i chi gysylltu â fi neu unrhyw un o’r swyddogion.

Gyda phob bendith

Meinir James

Ar ran Diaconiaid a Swyddogion Capel Penygraig