Hanes a Rhaglen

Mae Cymdeithas Capel Penygraig yn elfen bwysig o fywyd cymdeithasol yr eglwys. Cynhelir y cyfarfodydd yn y Festri ar bob yn ail nos Iau yn ystod misoedd y gaeaf gan ddechrau am 7.30. Darperir rhaglen amrywiol o weithgareddau ysgafn sydd yn cynnwys siaradwyr gwâdd, hawl i holi, ymweliadau i gynnwys swper, bowlio deg, dathlu’r Nadolig, Gŵyl Santes Dwynwen a Gŵyl Ddewi. Cynhelir paned a sgwrs ar ddiwedd gweithgareddau’r Festri.

Digwyddiad arall poblogaidd yw’r daith ddirgel flynyddol a gynhelir yn arferol ar yr ail Sadwrn ym mis Medi. Prif amcan y teithiau hyn yw ymweld â llefydd o ddiddordeb crefyddol, hanesyddol a llenyddol ein cenedl ac ystyrir y daith yn berernindod i ddathlu’r etifeddiaeth gyfoethog hon.

Mae hanes hir o lwyddiant i’r Gymdeithas. Sefydlwyd y Cwrdd Diwylliadol yn wreiddiol yn 1946 yn bennaf ar gyfer ieuenctid y capel. Cynhaliwyd nifer o weithgareddau gan gynnwys llwyfannu dramau a chynnal ‘Pawb yn ei Dro’ rhwng capeli ac eglwysi’r fro. Cynhaliwyd y gweithgareddau hyn yn Festri Bethel, Cwmffrwd. Yn unol â thraddodiad y cyfnod cynhaliwyd eisteddfod flynyddol yng Nghapel Penygraig rhwng 1950au hyd at ddechrau’r 1970au.

Bydd rhaglen y Gymdeithas am y flwyddyn yn ymddangos ar y wefan hon. Mae’r lluniau a darnau archif o ffilm yn adlewyrchu gweithgareddau’r Gymdeithas yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rhaglen 2022-23
3ydd o Fedi 2022 – Taith Ddirgel (Trefnwyr; Geraint a Rhiannon Roberts)
13eg o Hydref 2022 – Swper Diolchgarwch
27ain o Hydref 2022 – Llysiau Meddyginiaethol (Mrs Einir Jones)
10fed o Dachwedd 2022– Swyddog Diogelu rhag Twyll Heddlu Dyfed Powys (Rebecca Jones)
24ain o Dachwedd 2022 – Noson yng nhofal Mr Geraint Roberts
8fed o Rhagfyr 2022 – Ymweliad a Ty Llafar, Parc Dewi Sant am 6:30 y.h. Bwyd i ddilyn yn Tafarn Tanerdy
22ain o Rhagfyr 2022 – Dathlu’r Nadolig
12fed o Ionawr 2023– Bwydydd Cynhenid (Carwyn Graves)
26ain o Ionawr 2023– Dathlu Noson Santes Dwynwen
9fed o Chwefror 2023– Bowlio 10 yn Xcel, TreIoan an 6:30 y.h. Bwyd i ddilyn yng Ngwesty Llwyn Iorwg erbyn 8:00 y.h
23ain o Chwefror 2023– Dathlu Gwyl Dewi
9fed o Fawrth 2023– Hanes Hen Ysbyty’r Priordy (Eirwen Bennett)
23ain o Fawrth 2023– Hawl i Holi. Pwyllgor Blynyddol i ddilyn