Y Parchedig Meirion Sewell

Cafodd y diweddar Barchedig Meirion Sewell ei eni yn y Tymbl a’i fagu yn y ffydd yn eglwys Bethesda. Wedi gadael ysgol, aeth i weithio fel saer maen yn gosod brics i godi tai cyn teimlo’r alwad i fynd i’r weinidogaeth gan fynychu’r Coleg Goffa yn Aberhonddu ac yna yn Abertawe.
Cafodd ei ordeinio a’i sefydlu ym Myddfai a Bwlch-y-rhiw ger Llanymddyfri ym 1963 lle bu’n arwain gweithgareddau llewyrchus ar gyfer pobl ifanc. Yna derbyniodd alwad i Ryd-y-bont, Llanybydder ym 1969 ac ar ôl tair blynedd symudodd i Gapel Iwan. Yn 1979 symudodd a chymryd gofalaeth Gibeon, Taibach a’r Tabernacl Newydd ym Mhort Talbot.
Yn 1984 cafodd alwad i Gibea, Brynaman a Bethania, Rhosmaen. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd ddamwain car difrifol wrth deithio i bregethu a bu rhaid iddo gael cyfres hir o driniaethau cyn dychwelyd i’r pulpud a derbyn galwad i’r Tabernacl ym Mhorthcawl yn 1995. Derbyniodd alwad i Benygraig a Rama yn 2003 i fod yn Weinidog rhan amser. Cydymdeimlwn yn fawr ag Ann, ei wraig, a’r teulu oll yn eu colled a’u hiraeth.