Plygain

Plygain 2019
Cynhelir Gwasanaeth Plygain Traddodiadol yng Nghapel Penygraig, Croes-y-ceiliog ar Ragfyr 8fed am 6.30 yr hwyr.  Bydd croeso cynnes i bawb, yn garolwyr a gwrandawyr, gyda swper i ddilyn.


Erbyn hyn Gwasanaeth Y Plygain ym mis Rhagfyr yw un o ddigwyddiadau pwysig Capel Penygraig. Bu gwasanaethau plygain yn yr ardal ers nifer o flynyddoedd ond yn Ionawr 2012 cynhaliwyd Plygain Traddodiadol ym Mhenygraig am y tro cyntaf a hynny ar batrwm y plygeiniau a gynhelir yng Nghanolbarth Cymru. Bu’r Plygain cyntaf hwn cymaint o lwyddiant gyda chantorion yn dod o bob rhan o Ganolbarth a De Cymru fel ei fod wedi ei sefydlu yng nghalendar blynyddol y Capel. Gwneir casgliad tuag at achosion da yn ystod y gwasanaeth ac mae’r swper a’r cymdeithasu yn y Festri ar ddiwedd y gwasanaeth yn rhan bwysig iawn o’r Plygain hefyd.

Hanes a datblygiad Y Plygain

Medrir olrhain hanes y Plygeiniau yn ôl i’r cyfnod pan oedd Cymru yn wlad Babyddol, tua’r unfed ganrif ar bymtheg. Daw’r gair Plygain o’r enw Lladin, pulli cantus, sef caniad y ceiliog. Mae hyn yn dynodi mai yn y bore bach ar ddydd Nadolig y byddai’r Plygain traddodiadol yn cael ei gynnal, a hynny mor gynnar a 3 – 4 o’r gloch! Erbyn hyn fe gynhelir y mwyafrif o blygeiniau gyda’r hwyr.

Yn ystod canol y ganrif ddiwethaf bu’r arfer o gynnal gwasanaeth plygain bron â diflannu. Fe ail-sefydlwyd yr arfer yn dilyn y diddordeb a gymerwyd gan yr Amgueddfa Werin a’r cyhoeddusrwydd a roddwyd ar y pryd. Lle’r oedd y traddodiad, mwy neu lai, yn gyfyngedig i ddyffrynnoedd Banw a Thanat yng ngogledd Powys. Erbyn hyn y mae wedi ymestyn dros Gymru gyfan a chynhelir un yn Llundain. Mae cyfnod y Plygain yn ymestyn o Sul cyntaf yr Adfent hyd at Gŵyl Mair y Canhwyllau (2il Chwefror) ond erbyn hyn cynhelir yr un olaf ar y Sul olaf yn Ionawr.

Bu Cangen Glannau Pibwr o Ferched y Wawr yn cynnal gwasanaeth plygain yn Eglwys Llandyfaelog yn flynyddol am ddeng mlynedd ar hugain ac yn cyd-lynu cyfraniadau gan eglwysi a mudiadau lleol a chasglu tuag at achosion da. Daeth yr arfer hwn i ben yn 2014.