Croeso i wefan Capel Penygraig

Mae Penygraig fel mae’r enw yn awgrymu, yn sefyll ar fryn amlwg rhwng Cwmffrwd a Chroesyceiliog, Sir Gaerfyrddin, ac fe ellir gweld y capel wrth deithio o Gaerfyrddin i Gydweli.

Mewn côr a’i ddrws agored – ar y graig
Y mae’r Groes i’w gweled,
A gair Un trwy’r lle yn gred
Ac emynau’n gymuned.

Geraint Roberts

Rydym yn griw cynnes a chroesawgar a chynhelir oedfaon gan ddilyn y drefn oedfaon o dan penawd Capel.  Daw’n haelodau o ardal eang gan gynnwys Cwmffrwd, Croesyceiliog, Idole, Llansaint a Chaerfyrddin.

Cawn sgyrsiau difyr a hwyl yn ein Cymdeithas Ddiwylliannol sy’n cwrdd bob mis rhwng Medi ag Ebrill a chynhelir Gwasanaeth Plygain traddodiadol ar yr ail Sul ym mis Rhagfyr yn flynyddol. Rydym yn falch iawn, fel capel, i gasglu a chyfrannu arian at amrywiol elusennau lleol a chenedlaethol .

Rydym yn gapel bywiog sy’n ceisio ymestyn allan i’r gymuned o’n cwmpas drwy weithgareddau sy’n dod â ni yn agosach at ein gilydd ac yn estyn llaw i’n cymdogion.

Cofiwch gysylltu â ni os ydych angen unrhyw gymorth neu sgwrs – mae manylion cyswllt ar tudalen Cysylltu.

Beth am ddod draw atom? Bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.


Hawlfraint – Eglwys Annibynnol Capel Penygraig. Gwefan gan Mesen.