Newyddion

Hydref 2024
Ar ddiwedd Gorffennaf cafwyd gwasanaeth dan ofal Hefin Wyn ac yn dilyn y gwasanaeth cynhaliwyd ein cinio blynyddol yn y Llew Coch gan roi cyfle arall i’r aelodau gyfrannu at elusen ‘Ffynhonnau Byw’. Yn ystod y cinio talodd Geraint Roberts deyrnged i’r diweddar Geraint Rees, Caeralaw gan adrodd cywydd er cof amdano. Diolch i Meinir am y trefniadau ac i staff y Llew Coch am y croeso a’r lluniaeth hyfryd.

Er cof am Geraint Rees
mewn oedfa yn Rama wedi colli Geraint
Hel i’r cornel a wna’r co’
a’r gân sydd mor wag yno,
a’i ddwylo nawr yn llonydd.
Un fu’r offeryn â’i ffydd
ac inni loes ganol ha’
yw’r emyn heddiw’n Rama.

Ond daw’r wên bob tro i’r wal
a’i ddoe ifanc mor ddyfal,
a galw mae ei Gil-march
a’i hafau eto’n cyfarch;
ei wisg las sydd yn lasach
wedi byw’r ‘steddfodau bach.

Ȃ’i fiwsig a’i ddefosiwn
hawlia’i lais y capel hwn,
a’i gôr oedd yn un â’i gred,
Geraint fu’r drws agored.

Nid oedd oedfaon yn ystod mis Awst ond ar Sul cyntaf mis Medi croesawyd Alun Lenny nôl i Benygraig mewn oedfa Gymun. Clyde Briggs oedd yn y pulpud ar Fedi 8fed a Delyth Morgans Phillips oedd y cennad ar Fedi 15fed. Diolchwyd i’r ddau am eu cefnogaeth a’u negeseuon pwrpasol.

Cydymdeimlad
Cydymdeimlwn gydag Eirwen Jones a’i merch Sharon wedi iddynt dderbyn y newyddion am farwolaeth Molly, chwaer Eirwen yn ddiweddar.

Llongyfarchiadau
Yn ystod seremoni gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru yn yr Eisteddfod ym Mhontypridd ym mis Awst cyflwynwyd tystysgrifau i anrhydeddu gwirfoddolwyr Eisteddfodau’r De. Enwebwyd Geraint a Rhiannon Roberts gan bwyllgor Eisteddfod Llandyfaelog am eu cyfraniad. Bu Rhiannon yn gadeirydd y pwyllgor a Geraint yn ysgrifennydd dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Angharad Mair oedd yn arwain y seremoni a Bill Davies, Cadeirydd y Gymdeithas gyflwynodd y tystysgrifau.

Gorffennaf 2024
Ar ddechrau’r mis, yr ail o Fehefin ymwelodd yr aelodau â chapel Tabernacl yn y dref a chafwyd oedfa fendithiol iawn o dan ofal y Parch Desmond Davies. Yr wythnos ganlynol rhoddwyd croeso nôl i’r pulpud i’r Parch Gareth Morgan Jones  a weinyddodd y Cymun ar ddiwedd y gwasanaeth. Tro aelodau Tabernacl oedd i ymweld â Phenygraig ar y Sul canlynol pan groesawyd Arwel Evans i’n plith a braf gweld nifer o’n cyfellion yn bresennol.

Atgoffwyd ein haelodau am ein cinio yn Llew Coch, Llandyfaelog ar Orffennaf 28ain am 1 o’r gloch fel rhan o’n hymgyrch i gefnogi’r elusen Ffynhonnau Byw a gwahoddir aelodau a ffrindiau i sicrhau lle trwy roi eu henwau i Meinir. 

Mehefin 2024
Cynhaliwyd Cwrdd Eglwys ar fore Sul, Ebrill 28ain a dosbarthwyd Adroddiad Blynyddol 2023 a chafwyd trafodaeth a barn yr aelodau ar faterion yn ymwneud â datblygiad yr Eglwys. Ar Fai 12fed am y tro cyntaf croesawyd y Parch Illtyd Protheroe i Benygraig a chafwyd oedfa fendithiol ganddo gan gynnwys gweinyddu’r Cymun. Cwrdd undebol yn Philadephia oedd yr arlwy ar Fai 19fed a chynhaliwyd oedfa aelodau ar Fai 26ain i lansio casgliad yr Eglwys tuag at Apêl Ffynhonnau Byw Undeb yr Annibynwyr tuag ar ddarparu dŵr glân ar gyfer trigolion Colombia.

Cydymdeimlad
Trist oedd clywed am farwolaeth Eric Jones ar ddydd Gwener, 19eg Ebrill yn 78 mlwydd oed. Roedd Eric, gynt o Heol Abergwili, Caerfyrddin yn frawd i’r diweddar Carol, cyn-ysgrifenyddes Penygraig. Cydymdeimlwn gyda Janet Millward a’i theulu a gydag Eirwen a Sharon yn eu colled a’u hiraeth. 

Mai 2024
Ar Sul y Pasg braf oedd croesawu y Parch John Gwilym Jones nôl i’r pulpud a chafwyd pregeth wefreiddiol ganddo. Ar Llun y Pasg hyfryd oedd ymweld â’r Eglwys yn Llandyfaelog ar achlysur yr Ŵyl flodau. Roedd wir yn wledd i’r llygad ac yn codi calon bod cymuned cyfan wedi cefnogi’r achlysur. Lyndon Lloyd oedd yn gwasanaethu mewn cyfarfod undebol â chapel y Tabernacl a chafwyd cyfle am baned yn y festri wedi’r oedfa. Croesawyd y Parch Euros Jones Evans nôl i Benygraig ar Ebrill 14eg mewn oedfa gymun wedi cyfnod hir o salwch a braf oedd deall ei fod mor egnïol ag erioed. Cafwyd pregeth allan o Lyfr y Corinthiaid ganddo. Ar Ebrill 21ain Nigel Davies oedd yn y pulpud yn pregethu am hanes Paul o flaen Herod a chafwyd cyflwyniad gwych ganddo trwy gyfrwng lluniau. Ar nos Lun, Ebrill 15fed bu cynrychiolaeth dda o aelodau Penygraig wedi mynychu swper Ffynhonnau Gobaith, sef elusen Undeb yr Annibynwyr eleni, a drefnwyd gan Cyfundeb Gorllewin Cymru ym Mwyty Mart Caerfyrddin. 

Ebrill 2024
Ar Sul olaf Chwefror rhoddwyd croeso am y tro cyntaf i Dr Ryland Jones, Peniel i’r pulpud ym Mhenygraig. Cafwyd orig ddifyr yn ei gwmni ac edrychwn ymlaen at ei ymweliad nesaf. Ar Ebrill 10fed, sef Sul y Mamau, cawsom gwmni’r Parch Sian Elin Thomas ac addas oedd ei neges ar y Sul pwysig hwn. Ar Ebrill 17eg mewn cwrdd undebol ymunodd aelodau o gapeli Rama a Philadelphia gyda Phenygraig mewn oedfa hyfryd a diddorol o dan arweiniad y Parch Gareth Ioan. Ar Sul y Blodau, Ebrill 24ain, y Parch Tom Evans oedd yn gwasanaethu’r Cymun ac yn ein hatgoffa yn ei bregeth am ddigwyddiadau’r diwrnod arbennig hwnnw a’i neges i ni heddiw.

Mawrth 2024
Ar Sul cyntaf mis Chwefror y Parch Andrew Lenny oedd yn y pulpud a chafwyd pregeth gynhwysfawr ganddo. Ar Chwefror 11eg cafodd y Parch Jeff Williams groeso nôl i’r capel a gweinyddodd y Cymun yn ystod yr oedfa. Ar Chwefror 18fed ymunodd yr aelodau â chapel Tabernacl mewn gwasanaeth yng ngofal Natalie Morgan.

Chwefror 2024
Cafwyd oedfa fendithiol yng ngofal Clyde Briggs ar Ionawr 7fed  a chynhaliwyd oedfa gan y Parch Gareth Morgan Jones ar Ionawr 14eg gan gynnwys gweinyddu’r Cymun. Cwrdd undebol yng Nghapel Rama oedd gyda ni ar Ionawr 21ain o dan arweiniad y Parch Andrew Lenny.

Ionawr 2024
Ar ddechrau cyfnod yr Adfent ar Ragfyr 3ydd cynhaliwyd oedfa aelodau ac ymarfer Plygain. Ar Ragfyr 10fed cyfarfu’r aelodau i baratoi ar gyfer y gwasanaeth Plygain traddodiadol a drefnwyd ar gyfer y nos. Er y tywydd garw daeth nifer o selogion ynghyd i sicrhau llwyddiant a dychweliad y Plygain eleni. Diolchwyd i bawb am gefnogi unwaith eto ac yn arbennig i Huw John am y trefniadau, Elfyn Williams am lywio’r noson a Meinir James a Judith Rees am y rhannau arweiniol. Gwnaed casgliad ar ddiwedd y Plygain tuag at Gymdeithas Strôc Cymru a gwahoddwyd pawb i’r festri am luniaeth a chyfle i gymdeithasu. Cynhaliwyd Oedfa fendithiol iawn gan yr aelodau ar y thema ‘Gŵyl y Goleuni’ ar fore Sul, Rhagfyr 17eg gan edrych ymlaen at ddathlu geni’r Iesu ymhen wythnos. 

Huw, Meinir a Geraint – Un o bartïon canu ym Mhlygain traddodiadol Capel Penygraig

Rhagfyr 2023
Cynhaliwyd ymarfer plygain ar Sul olaf mis Tachwedd o dan ofal Huw John.Ym mis Tachwedd cynhaliwyd Cwrdd Eglwys ar y Sul cyntaf a chroesawyd Alun Lenny nôl i’r capel ar Dachwedd 12fed i weinyddu’r Cymun. Ar Dachwedd 19eg buom yn ymweld â chapel Philadelphia i wasanaeth yng ngofal Tudur Dylan Jones. Cynhaliwyd ymarfer Plygain ar Dachwedd 26ain o dan arweiniad Huw John.

Yn ystod ein Cwrdd Eglwys ar Dachwedd 5ed derbyniwyd tri aelod newydd i’r capel, sef Rheon a Rhoda Roberts a’i merch Nia Tobias. Mae’r teulu wedi ymgartrefu yn Sorrento, Cwmffrwd yn ystod y flwyddyn a dymunwn yn dda iddynt yn eu cartref newydd a dymunwn wellhad buan i Rhoda hefyd sydd wedi bod yn yr ysbyty am gyfnodau yn ddiweddar.

Plygain traddodiadol
Cynhelir ein Gwasanaeth Plygain blynyddol eleni ar nos Sul, Rhagfyr 10fed am 6.30yh. Estynnir croeso cynnes i gantorion, partïon a gwrandawyr i’r noson draddodiadol a hyfryd hon. Cesglir tuag at Cymdeithas Strôc Cymru.

Tachwedd 2023
Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Cyfundeb Caerfyrddin a’r cylch ar Fedi 29ain o dan arweiniad Meinir Richards, Llanddarog. Cafwyd darpariaeth amrywiol ar y Sul ym Mhenygraig yn ystod Suliau mis Hydref. Ar fore Sul Hydref 1af cafwyd arweiniad gan y Parch Tom Evans ynghyd â gweini Cymundeb ac ar nos Sul, Hydref 8fed y Parch Emyr Gwyn Evans oedd y pregethwr gwadd yn ein Cwrdd Diolchgarwch pryd gwnaed casgliad tuag at Uned Cimotherapi Ysbyty Glangwili. Cynhaliwyd cwrdd undebol yng Nghapel Tabernacl ar Hydref 22ain o dan arweiniad y Parch Sian Elin Thomas a’r un oedd y lleoliad ar gyfer ymweliad y Parch Owain Llŷr Evans, Eglwys Minny St., Caerdydd ar Hydref 29ain.     

Hydref 2023
Diolchwn am y gefnogaeth ar y Suliau yn ystod misoedd yr haf. Cawsom wasanaethau bendithiol gan y Parchedigion Emyr Gwyn Evans a Gareth Morgan Jones yn ystod mis Gorffennaf ac ar Orffennaf 9fed mynychodd nifer o aelodau’r Sul Sbesial yn yr Egin i glywed Catrin Stevens yn rhoi hanes Deiseb Heddwch 1923. Hefyd ar Orffennaf 2il mynychodd yr aelodau gwrdd undebol ynghyd â chymundeb o dan arweiniad y parch Illtud Prothero yng Nghapel Rama. Ar Orffennaf 30ain cynhaliwyd cinio hyfryd yn Llew Coch, Llandyfaelog i ddiweddu’r tymor cyn toriad mis Awst. Ar ddechrau Medi cawsom wasanaethau gan Clyde Briggs a chwrdd undebol yng ngofal Arwel Evans a chynhaliwyd ymarferion o dan ofal Helen Gibbon i baratoi ar gyfer y Gymanfa Ganu Eglwysi Cylch Caerfyrddin ar Fedi 24ain. Ar Fedi 17eg mynychwyd Cwrdd Undebol yn y Tabernacl ar gyfer chwech o eglwysi’r Ofalaeth Newydd o dan arweiniad y Parch Desmond Davies.

Diolchir hefyd i aelodau’r capel am gefnogi elusennau lleol yn ddiweddar gan gynnwys elusen LATCH a chyfrannu at y Banc Bwyd yn ystod yr haf.

Priodasau
Ar brynhawn Sadwrn yr ail o Fedi cynhaliwyd priodas ym Mhenygraig rhwng Lora Haf Phillips a Daniel Rhys Thomas. Roedd y gwasanaeth yng ngofal y Parchedig Mary Davies a’r organyddes oedd Menna James. Athrawes yw Lora yn Ysgol Llys Hywel, Hendygwyn-ar-Dâf a threfnwyd i barti merched o’r ysgol i ganu yn y briodas. Dymunwn bob bendith i Lora a Rhys yn eu bywyd priodasol.

Llongyfarchiadau hefyd i Aled a Dawn Rees, Cwmfelin, Croes-y-ceiliog ar eu priodas a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Diplomat, Llanelli.

Genedigaeth
Llongyfarchiadau i Eurig ac Anwen Davies, Santes Ann ar enedigaeth ŵyr, Harri Anthony Rowberry, mab i Lowri a Will. Dymuniadau gorau i’r teulu i gyd.

Gwellhad buan
Dymunwn wellhad buan i Huw John sy’n derbyn triniaeth ar hyn o bryd ac edrychwn ymlaen ato’n dychwelyd i arwain y gân cyn bo hir.

Siwrnai dda!
Dymunwn yn dda i Heather Thomas, Gelli Ddu a pherchennog meithrinfa Cywion Bach yn Idole fydd yn mynd i Batagonia ar ddiwedd mis Medi. Bydd Heather yn un o gynrychiolwyr Mudiad Ysgolion Meithrin a gobeithiwn gael ychydig o hanes y daith ddiddorol hon ganddi yn rhifyn nesaf o’r Cwlwm. 

Gorffennaf 2023
Braf oedd croesawu Nigel Davies i’r pulpud ar Fai 28ain ac fel arfer cafwyd cyflwyniad gweledol hyfryd ganddo i gyfleu ei neges. Ein cennad ar Fehefin 11eg oedd Delyth Morgans Phillips a rhoddwyd croeso cynnes iawn iddi ar ei hymweliad cyntaf atom. Llwyddodd i greu naws hyfryd wrth weinyddu’r Cymun i ddiweddu’r oedfa. Ar Fehefin 18fed cynhaliwyd cwrdd undebol yng nghapel Tabernacl yn y dre o dan ofal y Parch Andrew Lenny. Cafwyd oedfa hyfryd dan ei ofal a braf oedd cymdeithasu gydag aelodau capeli eraill dros baned wedi’r oedfa. Stephen Evans o ardal Llandysul arweinodd y gwasanaeth ar Fehefin 25ain a chynaliwyd cwrdd eglwys i drafod materion gofalaeth wedi’r oedfa.

Genedigaeth
Llongyfarchiadau i Bethan a Gruff Evans, Trefynys, Peniel ar enedigaeth Elin Mair ar Fai 31ain, chwaer fach i Mia Haf. Dymunwn yn dda iddynt fel teulu.

Mehefin 2023
Ar ddechrau mis Mai croesawyd Catrin Thomas nôl atom ac ar 14eg o Fai cynhaliwyd oedfa gartrefol ar Sul Cymorth Cristnogol gyda’r aelodau yn cymryd rhan. Yn ystod y gwasanaeth cawsom hanes Esther a Jen yn dangos pa mor bwysig yw eu cnydau pŷs colomennod i’w teuluoedd ym Malawi. Ar Fai 21ain ein cyn-weinidog y Parch Ryan Thomas oedd yn y pulpud mewn cwrdd undebol a chymundeb ar y cyd gydag aelodau Philadelphia a Rama.

Mai 2023
Ar Fawrth 26ain cafwyd oedfa hyfryd a chymundeb o dan ofal y Parchedig Andrew Lenny ac ar Sul y Blodau ar Ebrill 2ail cynhaliwyd oedfa aelodau ar y thema ‘Golau’. Cynhaliwyd cwrdd undebol a chymundeb ar Ebrill 9fed, sef Sul y Pasg yn nghapel Rama yng ngofal y Parchedig Andrew Lenny. Ar Ebrill 16eg y Parchedig Gareth Ioan oedd yn gweinyddu’r cymun ac yn ein hatgoffa am hanes y Pasg.

Bu rhai aelodau yn mynychu darlithiau gan Eurig Davies ar y Parchedig Peter Williams yng Nghapel Heol Awst ac yn sôn am noddwyr Plas yr Esgob yn Amgueddfa Abergwili. Mae nifer o’n haelodau wedi ymweld â’r arddangosfa yno i weld llun ‘Flora’ gan Rembrandt sydd wedi cael ei arddangos yno ers mis Chwefror.

Ebrill 2023
Cafwyd oedfa yng ngofal yr aelodau ar Chwefror 19eg ac oedfa amserol iawn ar thema’r ffoaduriaid gan Alun Lenny ar Fawrth 12fed. Cafwyd oedfa fendithiol gan y Parch Mary Thorley ar Fawrth 19eg. Diolchwn i’n haelodau am eu cyfraniad a’u cefnogaeth i’r gwasanaethau.

Mawrth 2023
Ar brynhawn Ionawr 22ain y Parch Gareth Morgan Jones oedd yn y pulpud a chafwyd pregeth fendithiol yn ei gwmni. Teithiodd aelodau i Gapel Philadelphia, Nantycaws ar Chwefror 5ed i gyd-addoli dan arweiniad Nigel Davies. Braf oedd croesawu Annalyn Davies ar Chwefror 12fed gyda’r neges amserol ar gariad. Ar Chwefror 19eg cynhaliwyd oedfa aelodau ar y thema ‘Y Saint’. Diolch i bawb am eu cyfraniad.

Penblwydd hapus
Llongyfarchiadau i Eirlys Thomas, Gelli Onnen, Cwmffrwd ar ddathlu penblwydd arbennig iawn yn ystod mis Chwefror. 

Ionawr a Chwefror 2023
Cafwyd oedfa fendithiol yng ngofal y Parch Andrew Lenny ar y Sul cyntaf yn Rhagfyr ond methwyd cynnal ein Plygain traddodiadol blynyddol ar Ragfyr 11eg oherwydd y tywydd rhewllyd. Cynhaliwyd oedfa aelodau ar Ragfyr 18fed ac oedfa Noswyl Nadolig gan y Parch Wynn Vittle yn gweinyddu’r Cymun. Dau o bentref Peniel groesawyd i’r pulpud yn y flwyddyn newydd. Ar Ionawr 8fed y Parch John Gwilym Jones oedd y cennad gyda’r anerchiad ar Salm 121 ‘Dyrchafaf fy llygad i’r mynyddoedd’. Ar Ionawr 15fed y Parch Tom Evans oedd yn gweinyddu’r Cymun ac yn canolbwyntio ar y bennod gyntaf yn Efengyl Marc. Ar Ionawr 22ain cynhaliwyd Cwrdd Eglwys i drafod posibiliadau’r Ofalaeth Newydd.    

 Rhagfyr 2023
Ar ddechrau mis Tachwedd braf oedd croesawu Catrin Thomas atom a hynny ar ei hymweliad cyntaf. Yn gyn-aelod o Heddlu Dyfed Powys mae Catrin yn hanu o Gwm Gwendraeth ond erbyn hyn wedi ymgartrefu ym Maenclochog a chafwyd oedfa hyfryd yn ei chwmni. Ar Sul y Cofio Alun Lenny oedd yn y pulpud a chafwyd y cyfraniad diddorol arferol ganddo yntau. Cyfarfod y prynhawn a gafwyd gan y Parch Gareth Morgan Jones ar Dachwedd 20fed yn gweinyddu’r Cymun ac yn ystod y gwasanaeth derbyniwyd dau aelod newydd i’r capel, sef Eifion a Bronwen Davies sydd wedi ymgartrefu ym Mhentrepoeth. Cynhaliwyd ymarfer plygain ar Sul olaf mis Tachwedd o dan ofal Huw John.

Plygain traddodiadol
Cynhelir ein Plygain blynyddol eleni wedi seibiant o ddwy flynedd ar nos Sul, Rhagfyr 11eg am 6.30yh. Estynnir croeso cynnes i gantorion, partïon a gwrandawyr i’r noson draddodiadol a hyfryd hon. Cesglir tuag at Cymdeithas Strôc Cymru.

Tachwedd 2022
Cafwyd darpariaeth amrywiol ar y Sul ym Mhenygraig yn ystod Suliau mis Hydref. Ar fore Sul Hydref 2ail cafwyd arweiniad gan y Parch Tom Evans, Peniel ac yna ar nos Sul, Hydref 9fed y Parch Tom Defis oedd y pregethwr gwadd yn ein Cwrdd Diolchgarwch pryd gwnaed casgliad tuag at Elusen Tir Dewi. Cynhaliwyd cyngerdd ar nos Sul Hydref 16eg ac mae adroddiad llawn isod. Y Parch Euros Jones Evans oedd ein cennad ar Hydref 23ain gyda Chwrdd Eglwys ar Hydref 30ain.    

Cydymdeimlad
Mae aelodau’r eglwys yn estyn eu cydymdeimlad â Walter Jones, Awel Deg a theulu Llwynhelyg ar golli ei chwaer, Eunice Thomas, Hafod Wen yn ddiweddar. Mae ein meddyliau gyda chi oll.

Hydref 2022
Diolchwn am y gefnogaeth ar y Suliau yn ystod misoedd yr haf. Cawsom wasanaethau bendithiol gan Hefin Wyn, Parch Andrew Lenny, Gari Nicholas, Clyde Briggs ac Arwel Evans. Ymwelodd nifer o’n haelodau â’r Egin ac i wrando ar anerchiad Huw Edwards adeg y Sul Sbesial a chafwyd oedfa aelodau ar ddiwedd Gorffennaf gyda chinio i ddilyn yn y Llew Coch, Llandyfaelog. Ar ddechrau Medi cawsom wasanaethau gan Annalyn Davies, Parch Wynne Vittle a’r Parch Ryan Thomas.

Llongyfarchiadau
Derbyniodd Yvonne Lewis, Craigfryn dystysgrif wrth Gymdeithas Eisteddfodau Cymru yn ystod wythnos Eisteddfod Tregaron am ei chyfraniad i Eisteddfod Llanfdyfaelog dros nifer fawr iawn o flynyddoedd. Yn y llun fe’i gwelir yn derbyn ei thystysgrif wrth Gary Owen.

Llongyfarchiadau hefyd i Geraint Roberts am gael ei dderbyn i’r Orsedd er anrhydedd yn Nhregaron. Bu Geraint yn fuddugol ar gystadleuaeth ysgrifennu cywydd yn adran farddoniaeth yr eisteddfod.

Colli Aelod
Cydymdeimlwn gydag Eirwen Jones a Sharon ei merch o Ffrwdwen, Cwmffrwd yn dilyn colli brawd Eirwen, Irfon Evans, Brynaeron Cwmffrwd yn 88 mlwydd oed yn ddiweddar. Roedd Irfon yn aelod ac ymddiriedolwr ym Mhenygraig am flynyddoedd lawer ond dirywiodd ei iechyd yn ddiweddar a threuliodd gyfnodau yn yr ysbyty. Cynhaliwyd yr angladd yng Nghapel Gorffwys, Login o dan ofal y Parch Beti-Wyn James a’r claddedigaeth ym mynwent Saron, Llangeler. Cydymdeimlwn hefyd gyda chwaer Eirwen, sef Mollie, a’r teulu cyfan yn eu colled.

Eisteddfod yr Urdd
Mynychodd nifer o aelodau Noson Rasys Ceffylau yn Llandyfaelog a drefnwyd gan bwyllgor apêl lleol i godi arian at Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri yn 2023. Bu’n noson hwylus iawn a Judith Rees oedd y joci buddugol yn y ffeinal fawr i gloi’r noson. Dyma lun o Judith gyda’i cheffyl llwyddiannus o stabal Penygraig ar ddiwedd y rasys!

Cynhelir cyngerdd o ddoniau lleol yng Nghapel Penygraig ar nos Sul, Hydref 16eg am 7yh gyda’r elw yn mynd tuag at apêl Eisteddfod yr Urdd. Gellir cael tocynnau (£5) oddi wrth aelodau’r pwyllgor.

Ar wellhad
Braf yw cael cwmni Huw John nôl yn y capel wedi cyfnodau o dostrwydd ac ymweliadau â’r ysbyty.

Anfonwn ein dymuniadau gorau i Gareth Thomas, Gelliddu wedi ei dostrwydd annisgwyl yn ddiweddar. Dal ati i wella.

Penblwydd
Llongyfarchiadau i Owen a Heuddwen Evans, Nantycaws ar ddathlu penblwydd priodas aur yn ddiweddar.

Penblwydd hapus iawn i Menna James, Maesglasnant a fu’n dathlu penblwydd arbennig iawn ar ddiwedd mis Medi. Bu ffrindiau a thylwyth yn ymuno yn y dathlu ac yn ôl pob sôn  roedd angen tipyn o chwythu ar y canhwyllau i gyd.

Mai 2022
Ar Fai 1af croesawyd Jean Voyle Williams o Landdarog atom ar ei hymweliad cyntaf â’r capel. Mae Jean yn Gurad Cynorthwyol gydag eglwysi’r ardal a diolchwn iddi am ei pharodrwydd i gynorthwyo yn dilyn colli ein Gweinidog. Cawsom oedfa hyfryd ganddi ac roedd ôl athrawes lwyddiannus ar ei neges amserol. Wythnos yn ddiweddarach y Parchedig Wynn Vittle oedd yn y pulpud, ffrind da iawn i Benygraig, a chafwyd pregeth gynhwysfawr ganddo cyn gweinyddu’r cymun.

Ar Fai 15fed cynhaliwyd gwasanaeth undebol yng Nghapel Philadelphia, Nantycaws dan ofal y Parchedig Alwyn Daniels. Roedd yn braf gweld cynrychiolaeth o aelodau Rama a Phenygraig yn ymuno â’n ffrindiau yn Philadelphia a chawsom oedfa fendithiol iawn gan Weinidog a fagwyd yn y capel. Y Parch Gareth Morgan Jones o Gwm Tawe oedd gyda ni ar y Sul olaf o’r mis a diolchwn iddo yntau hefyd am ei barodrwydd bob amser i gefnogi Penygraig.  

Llongyfarchiadau
Dymunwn yn dda i Meinir James, Ochr-y-cwm, Croesyceiliog fu’n llwyddiannus yn etholiadau’r Cyngor Sir yn ddiweddar. Bydd yn cynrychioli ward newydd estynedig Llangyndeyrn sydd yn ymestyn o Bibwrlwyd i Ffoslas ac ar draws Cymoedd Gwendraeth Fach a Fawr.    

Marwolaeth
Trist oedd clywed am farwolaeth Handel Jones, Croesyceiliog Fach yn ystod y mis ac yntau wedi colli dwy o’i chwiorydd yn ddiweddar iawn. Cydymdeimlwn yn fawr gyda’r teulu oll yn eu galar.  

Ebrill 2022
Ar brynhawn Sul y Mamau, Ebrill 27ain croesawyd y Parch Sian Elin Thomas i Benygraig. Hon oedd ei hymweliad cyntaf â’r capel a chawsom orig ddifyr a bendithiol yn ei chwmni. Edrychwn ymlaen i’w chroesawu nôl eto yn y dyfodol agos. Ar Sul y Blodau cynhaliwyd Cwrdd Eglwys pan fu’r aelodau yn trafod nifer o bynciau gan gynnwys yr adroddiad a threfniadau newydd ar gyfer yr ymddiriedolwyr. Ar Sul y Pasg buom yn ffodus i gael cwmni’r Athro Mererid Hopwood i’n plith a gamodd i’r adwy pan fethodd y Parch John Gwilym Jones ddod atom oherwydd anhwylder. Diolchwn iddi am wasanaeth hyfryd a dymunwn adferiad buan i’r Parch John Gwilym Jones. Y cennad ar Ebrill 24ain oedd y Parch Emyr Gwyn Evans a diolchwn iddo yntau hefyd am ei neges gefnogol ac amserol.

Marwolaeth
Trist yw cofnodi marwolaeth Bethan Gibbon, Fferm y Plas, Llansaint ar Fawrth 24ain. Cynhaliwyd yr angladd ym Mhenygraig ar Ebrill 5ed gyda’r gwasanaeth yng ngofal y Parch Emyr Williams a dalodd deyrnged arbennig o hyfryd i Bethan. Cydymdeimlwn â’i phriod Hywel, Catrin ac Emyr, Hefin a Beth a’r wyrion Owain, Gwawr, Megan, Edryd ac Aled. Cyn ymaelodi ym Mhenygraig bu Bethan yn ysgrifennydd gweithgar iawn yng nghapel Tabor, Llansaint ac rydym ni ym Mhenygraig wedi colli aelod annwyl iawn o deulu’r eglwys.

Cydymdeimlwn hefyd â Handel Jones, Croes-y-ceiliog Fach a’r teulu ar golli dwy chwaer, sef Margaret Jones a Mary Griffiths o fewn tair wythnos i’w gilydd yn ddiweddar.

Mawrth 2022
Ein cennad ar Fawrth 6ed oedd Clyde Briggs o Gaerfyrddin ar ei ymweliad cyntaf â’r capel. Cawsom wasanaeth twymgalon ganddo ac edrychwn ymlaen at ei wahodd eto.

Ar Fawrth 13eg cynhaliwyd Oedfa Goffa i’n Gweinidog, y Parch Meirion Sewell. Buom yn ffodus i gael cwmni’r Parch Jeff Williams i dalu teyrnged i’n Gweinidog ac sôn am ei atgofion cynharaf amdano ym Myddfai a’r dylanwad mawr gafodd arno a arweiniodd iddo yntau fynd i’r weinidogaeth. Braf oedd cael cwmni Mrs Ann Sewell a’i pherthnasau a’i ffrindiau yn yr oedfa ynghyd â rhai aelodau o gapel Rama ein chwaer eglwys. Cafwyd cyfraniadau pwrpasol gan aelodau Penygraig yn crynhoi eu hatgofion am agweddau o wasanaeth y Parch Meirion Sewell am bron bedair mlynedd ar bymtheg i’r eglwys. Mae’n gadael bwlch mawr ar ei ôl.

Chwefror 2022
Ar Chwefror 6ed cafwyd Oedfa Aelodau ar y thema ‘Diolch a Dyfalbarhad’ a manteisiwyd ar y cyfle i ddiolch ac anrhegu Yvonne Lewis ac Elfyn Williams am flynyddoedd o wasanaeth i Gapel Penygraig. Bu Yvonne yn gofalu a glanhau’r capel am chwe mlynedd ar hugain a bu Elfyn yn drysorydd am yr un cyfnod. Mae’r llun isod yn dangos Yvonne ac Elfyn gydag englynion o waith Geraint Roberts a gyflwynwyd iddynt gan aelodau’r capel. 

I gyfarch Yvonne Lewis
wedi 26 mlynedd o ofal am Gapel Penygraig
Hi ydyw ein côr llydan – a llaw hon
sy’n llenwi ein cwpan,
ein waliau, geiriau a’r gân,
ei gofal sydd yn gyfan.

Ei hafau bu’n rhoi heb ofyn – â graen
Penygraig heb derfyn,
hi’r drws agored wedyn;
Yvonne yw ein cwrdd fan hyn.

 I gyfarch Elfyn Williams
wedi 26 mlynedd fel trysorydd Capel Penygraig
Ein helw a’n cynilon – yw heddiw
a’r weddi mor ffyddlon, 
un â’i sêl i’r eglwys hon,
yr hafau a’i chyfrifon.

Ar ein mantolen eleni – hen gred
Penygraig sy’n cyfri’,
a’r ased yn y rhesi;
Elfyn yw’n cyfalaf ni.  

Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol ein Gweinidog, y Parch Meirion Sewell ar Chwefror 11eg yn Amlosgfa Llanelli. Roedd y gwasanaeth yng ngofal y Parch Jeff Williams gyda’r Parchedigion Aled Jones a Ryan Thomas yn cynorthwyo. Yn eu hieuenctid roedd y tri wedi cael eu mentora gan ein Gweinidog ac wedi dilyn ei drywydd i’r Weinidogaeth. Gwelwyd cynrychiolaeth o’r eglwysi lle bu’n Weinidog yn yr angladd ynghyd â nifer o weinidogion o’r Cyfundeb. Cydymdeimlwn ag Ann Sewell a’r teulu yn eu profedigaeth a chynhelir gwasanaeth coffa i’r Gweinidog ym Mhenygraig ar fore Sul, Mawrth 13eg am 10.30yb.

Ar Chwefror 13eg cafwyd oedfa fendithiol yng nghwmni Alun Lenny.

Ionawr 2022


Gyda thristwch mawr derbyniwyd y newyddion am farwolaeth ein Gweinidog Y Parch Meirion Sewell ar Ionawr 20fed. Bu farw yn Ysbyty Glangwili wedi salwch byr yn 84 mlwydd oed. Mae’n gadael bwlch mawr ar ei ôl a chydymdeimlwn gyda’i wraig Ann, ei fab-yng-nghyfraith Nigel a’i wyrion Aled, Geraint ac Arwel. Cynhelir yr angladd yn Amlosgfa Llanelli ar ddydd Gwener, Chwefror 11eg.

Ganed Meirion Sewell yn y Tymbl a’i fagu yn y ffydd yn eglwys Bethesda. Bu’n gweithio fel saer maen yn gosod brics i godi tai cyn cael yr alwad i fynd i’r weinidogaeth gan fynychu’r Coleg Goffa yn Aberhonddu ac yna yn Abertawe. Cafodd ei ordeinio a’i sefydlu ym Myddfai a Bwlch-y-rhiw ger Llanymddyfri ym 1963 lle bu’n arwain gweithgareddau llewyrchus ar gyfer pobl ifanc. Yna derbyniodd alwad i Ryd-y-bont, Llanybydder ym 1969 ac ar ôl tair blynedd symudodd i Gapel Iwan. Yn 1979 symudodd a chymryd gofalaeth Gibeon, Taibach a’r Tabernacl Newydd ym Mhort Talbot. Yn 1984 cafodd alwad i Gibea, Brynaman a Bethania, Rhosmaen ac yna i Dabernacl, Porthcawl yn 1995. Yn ystod ei ymddeoliad derbyniodd alwad i Benygraig a Rama yn 2003 i fod yn Weinidog rhan amser a buom yn dathlu ei hanner canmlwyddiant yn y Weinidogaeth yn 2013.

Cydymdeimlad
Ar Ragfyr 28ain bu farw Lyn Evans, Nantoer, Llansaint yn 96 mlwydd oed. Yn gyn-aelod yng Nghapel Tabor, ymaelododd â Phenygraig a bu’n ffyddlon cyn i’r pandemig a’i hafiechyd amharu ar ei phresenoldeb. Cynhaliwyd yr angladd yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth o dan ofal ein diweddar Weinidog ar Ionawr 7fed. Cydymdeimlwn yn fawr â’i merch Veronica a’r teulu cyfan. Roedd Lyn yn wraig ddiwylliedig iawn a theimlir y golled yn fawr ym mhentref Llansaint oherwydd roedd Lyn yn meddu ar gof rhyfeddol am hanes Tabor a’r pentrefwyr.

Ar Ionawr 11eg cynhaliwyd angladd a gwasanaeth o ddiolchgarwch am fywyd Margaret Lloyd Richards yn y capel o dan ofal ein diweddar Gweinidog a chafwyd darlleniad gan Bethan Richards a theyrnged deimladwy gan Mark Lawrence yn adlewyrchu ei bywyd gan nodi rhai atgofion amdani. Cydymdeimlwn yn fawr gyda Huw a Sian a’u teuluoedd yn ei galar.  

Cydymdeimlwn hefyd gyda theulu Moelfre Uchaf yn dilyn marwolaeth Sylvia Parry yn ystod mis Ionawr, a hynny wedi salwch hir. Un o Ynys Môn oedd Sylvia a bu’n mynychu oedfaon Penygraig yn rheolaidd cyn cyfnod y pandemig a chyn i’w hiechyd ddirywio. Mae ein meddyliau gyda ei merch Shân, ei mab-yng-nghyfraith Peter a’i hwyres Enlli yn eu hiraeth a’u colled.   

Oedfaon
Cynhaliwyd oedfa aelodau ar Ionawr 16eg yn absenoldeb y Gweinidog ar y thema ‘Addunedau’. Y Parch Iwan Vaughan Evans oedd y cennad ar Ionawr 23ain a’r Parch Gareth Ioan ar Ionawr 30ain.

Rhagfyr 2021
Cafwyd oedfa hyfryd yng ngofal Alun Lenny ar Sul olaf Tachwedd, sef cychwyn tymor yr Adfent a dyna oedd thema ei wasanaeth wrth inni baratoi ar gyfer dathlu dyfodiad Iesu Grist. Ar Sul cyntaf Rhagfyr cawsom oedfa gymun yng ngofal ein Gwenidog a chyfarfod eglwys i ddilyn yn trafod cynlluniau ad-drefnu ymddiriedolwyr ar gyfer y dyfodol. Penodwyd Anwen Davies yn drysorydd i olynu Elfyn Williams sy’n ymddeol o’i swydd ar ddiwedd y flwyddyn. Diolchodd yr ysgrifennydd, Meinir James i’r trysorydd ac ei waith trylwyr dros chwarter canrif ac i Anwen am dderbyn y swydd. Diolchwyd hefyd i Yvonne Lewis fydd yn ymddeol wedi chwarter canrif yn ei swydd fel glanhawr y capel.

Ar Dachwedd 12fed trefnwyd gwasanaeth i’r aelodau gan Judith Rees ar y thema ‘Golau a Gobaith’. Er y tywydd garw tu allan roedd awyrgylch hyfryd wedi ei greu y tu mewn gydag emynau, darlleniadau a chyflwyniadau pwrpasol ar drothwy Nadolig 2021.

Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Eirwen ac Adrian Nicholls ar enedigaeth wyres Mila June ar ddiwedd mis Tachwedd, anrheg Nadolig cynnar i’w rhieni Elin a Dan a gorwyres i Yvonne Lewis, Craigfryn.

Dymuniadau gorau hefyd i David a Wendy Lewis, Brynmeurig, Llangynnwr ar ddathlu eu priodas ruddem yn ddiweddar. 

Tachwedd 2021
Dymuniadau gorau a gwellhad buan i’r aelodau sydd wedi dioddef anhwylderau yn ddiweddar, sef Eirwen Jones, Elizabeth Jeremy, Huw John a’n Gweinidog Meirion Sewell a’i wraig Ann.

Cynhaliwyd y Gwasaneth Cymun cyntaf ers dechrau’r cyfnod clo ar Dachwedd 7fed dan ofal y Gweinidog ac ar Sul y Cofio gwasanaethwyd gan y Gweinidog.

Ar Dachwedd 21ain cynhaliwyd bedydd Mia Haf, merch Bethan a Gruffydd Evans, Trefynys, Peniel.

Hydref 2021
Ar nos Lun, Hydref 4ydd cynhaliwyd ein Cwrdd Diolchgarwch blynyddol gyda’r Parch Andrew Lenny yn gwasanaethu. Braf oedd gweld cynulleidfa niferus yn bresennol i glywed pregeth mor rymus a bendithiol.

Cynhaliwyd cwrdd eglwys ar Hydref 10fed gyda Meinir James yr ysgrifenyddes yn cadeirio pryd trafodwyd nifer o faterion o bwys gyda’r aelodau. Cymerwyd y rhannau arweiniol gan Judith Rees yn darllen a Rhiannon Roberts yn gweddio. Yn anffodus, methodd y Gweinidog fod yn bresennol oherwydd salwch. Dymunwn wellhad buan iddo a’r teulu.   

Gwefan Penygraig
Clywsom yn y cwrdd eglwys bod ein gwefan yn cael ei diweddaru’n gyson a bod nifer calonogol yn ymweld â hi i chwilio am ein hanes, digwyddiadau a newyddion Penygraig. Mae diddordeb yn lleol ond hefyd o wledydd megis yr Unol Daleithiau, Canada, Yr Iseldiroedd a Denmarc. Cyfeiriad y wefan yw www.eglwyspenygraig

Medi 2021
Er y cyfyngiadau arnom, braf oedd dychwelyd i’r capel ar ddechrau mis Medi gyda’r gwasaneth cyntaf yng ngofal ein Gweinidog. Cafodd y Parch Euros Jones Evans groeso cynnes gennym ar Fedi 12fed a chawsom oedfa fendithiol iawn yn ei gwmni. Ond bu’n rhaid rhoi’r gorau i gynnal yr Ŵyl Mawl Medi oedd i’w chynnal ym Mhenygraig ar ddiwedd y mis.

Cydymdeimlad
Cydymdeimlwn yn fawr â Judith Rees a’r teulu, Llys Hywel, Pentrepoeth ar golli ei mam Mrs Mary Rees yn ddiweddar. 

Gwellhad buan
Braf nodi bod Eirwen Jones yn gwella’n araf ar ôl triniaeth yn Ysbyty Glangwili. Brysiwch i wella! Yn ddiweddar bu’n rhaid i’w brawd Irfon Evans fynychu’r ysbyty eto a da clywed ei fod wedi dychwelyd i Gartref Gofal Plas-y-dderwen, Tre-Ioan. Mae Neville Rees, Fferm Croes-y-ceiliog hefyd yn yr ysbyty ar hyn o bryd a dymunwn yn dda iddo yntai hefyd.

Llongyfarchiadau
Daeth newyddion llawen i’n plith yn ddiweddar hefyd o glywed bod Ian a Janet Millward, Llwyn-celyn wedi croesawu wyres i’r teulu.

Cyfrannu at Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd 2023

Mehefin 2021
Cynhaliwyd yr oedfa gyntaf nôl yn y capel ar Fehefin 6ed gyda’r Gweinidog yn gwasanaethu ac oedfa aelodau rhithiol ar Fehefin 13eg ar y thema ‘Y Meddyg Da’. Trefnwyd emynau a darlleniadau pwrpasol a chyflwyniadau am feddygon enwog a wnaeth gyfraniad i ddarparu brechiadau a diheintyddion sydd wedi bod mor hanfodol eu gwerth yn y cyfnod pandemig hwn. Ar Fehefin 20fed cynhaliwyd gwasanaeth yn y capel gan y Parch Guto Llywelyn a gwasanaeth rhithiol o dan ofal Annalyn Davies ar Fehefin 27ain.

Bydd trefn gwasanaethau Penygraig ar gyfer Gorffennaf fel a ganlyn gyda gwasanaethau capel a rhithiol ar yn ail : Gorffennaf 4ydd, Alun Lenny, capel; Gorffennaf 11eg, Sul Sbesial am 2yh, gan y Cyfundeb ar Zoom; Gorffennaf 18fed, Karen Owen, Zoom; Gorffennaf 25ain, Gweinidog, capel. Ymholiadau i Geraint Roberts ar 01267 229047 neu geraintroberts@btinternet.com

Gwellhad buan
Braf deall bod Owen Evans, Nantycaws ar wellhad wedi triniaeth yn Ysbyty Glangwili yn ddiweddar a’i fod yn cael pob gofal gan ei wraig Heuddwen y nyrs.    

Cydymdeimlad
Daeth y newyddion trist am golli aelod arall o’r capel wedi cyfnod hir o dostrwydd. Bu farw Eiddwen Davies, Cartref Cynnes, Tre Ioan gynt o Laingotten, Cwmffrwd ar Fehefin 19eg. Cydymdeimlwn yn fawr gyda Hywel ei gŵr, Gwyn ei brawd a’r teulu oll yn eu colled.

Ar ôl cyfnod yn Ysbyty Glangwili bu farw Owen Morgan, Llaingotten, Cwmffrwd ar Fai 23ain yn 96 mlwydd oed. Cydymdeimlwn yn fawr gyda’i wraig Wena, y meibion Colin a Derek a’u teuluoedd. Cynhaliwyd yr angladd yn Eglwys Santes Ann ar Fehefin 3ydd.

Trist oedd clywed y newyddion am farwolaeth Millie Thomas, Gellideg, Cwmffrwd gynt o Glanrhydw, Llangyndeyrn ar Fehefin 13eg. Symudodd i Gwmffrwd yn 1983 a gwelir ei cholli yn fawr ffrindiau a chymdogion. Cydymdeimlwn yn ddwys â’r teulu i gyd yn eu colled a’u hiraeth. Cynhaliwyd yr angladd yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth ar Fehefin 23ain.

Mehefin 2021
Newidiwyd trefn y Suliau yn sgîl y pandemig a llwyddwyd i drefnu gwasanaethau rhithiol. Diolch i bawb am ymateb mor barod a chadarnhaol i sicrhau parhau gyda’r gwasanaethau. Ym mis Ionawr cafwyd oedfaon dan arweiniad y parchedigion Tom Evans ac Emyr Gwyn Evans. Cynhaliwyd oedfa aelodau ar y thema ‘y rhai bychain’ ar Chwefror 7fed a chafwyd cwmni Alun Lenny a’r Parch Wynne Vittle hefyd yn ystod y mis. Ym mis Mawrth, braf oedd croesawu y parchedigion Tom Defis ac Andrew Lenny. Cynhaliwyd oedfa aelodau ar thema ‘Y Daith’, cwrdd eglwys a gwasnaeth o dan arweiniad y Parch Gareth Morgan Jones ym mis Ebrill. Diolchwn yn fawr iddynt i gyd am wasanaethau calonogol a bendithiol.

Gwelwyd y manteision o gynnal gwasanaethau rhithiol wrth inni weld aelodau a ffrindiau pell ac agos ar y sgrîn, ond mae rhai aelodau wedi methu ymuno yn rhithiol a braf bydd troedio’n ofalus ym mis Mehefin drwy gynnal cyfuniad o wasanaethau yn y capel a rhai rhithiol. Bydd yr oedfa ar ddechrau’r mis yn croesawu‘r Gweinidog, y Parch Meirion Sewell nôl i’r pulpud.

Gwellhad buan
Braf gweld bod Gwyn Jones, Idole yn gwella wedi ei driniaeth ar ddechrau’r flwyddyn. Deallwn hefyd bod Eiddwen, ei chwaer, sydd wedi dioddef misoedd anodd iawn nôl yn Ysbyty Glangwili erbyn hyn. Rydym yn meddwl amdani ac yn dymuno’n dda iddi a’r teulu yn ei anhwylder presennol. Yn yr un modd mae ein meddyliau gyda Trevor Lloyd, Heol Nantyglasdwr sydd hefyd yn Ysbyty Glangwili ac rydym yn rhannu gofidiau Linda, aelodau’r teulu a’i ffrindiau. 

Croeso nôl
Braf croesawu Jonathan Lewis a’r teulu nôl i’w hen gartref yn Santes Ann a dymunwn yn dda iddynt wrth symud o Bontardawe i Gwmffrwd gyda’r plant yn mynychu ysgolion Llangynnwr a Bro Myrddin. 

Marwolaeth
Trist oedd clywed am farwolaeth Sue Jones, Santes Ann yn ystod y mis. Yn ystod ei gyrfa bu’n athrawes ysgol gynradd ac yn ddarlithydd yn Ngholeg y Drindod. Cydymdeimlwn yn fawr â’i theulu, ffrindiau a chymdogion fu’n gefnogol iddi. 

Ionawr 2021
Genedigaeth
Llongyfarchiadau mawr i Anwen ac Eurig Davies, Santes Ann ar enedigaeth Garan eu hŵyr bach newydd ar Ragfyr 6ed, mab i Rhys a Nia o Gydweli a brawd i Elan.

Dymuniadau gorau
Mae Gwyn Jones, Idole yn disgwyl triniaeth yn Ysbyty Treforus yn ystod y cyfnod hwn a dymunwn yn dda iddo a’r un modd hefyd i Eiddwen Davies, ei chwaer, sy’n parhau yn Ysbyty Glanaman.

Trefniadau’r Sul
Oherwydd difrifoldeb y pandemig ni chynhelir gwasanaethau ym Mhenygraig tra bod Cymru yn Haen 4 o’r canllawiau. Os bydd amgylchiadau yn caniatau cynhelir ein gwasanaeth nesaf ar Ionawr 24ain. Yn y cyfamser bydd y swyddogion yn ceisio trefnu gwasanethau rhithiol ar rai o’r Suliau gwag.

Oedfa Aelodau
Cynhaliwyd oedfa aelodau ar Ragfyr 13eg ar y thema ‘Caredigrwydd Cariadus’. Soniodd Rhiannon bod y syniad wedi codi yn sgil ymweliad â mynwent Eglwys Santes Ann, Cwmffrwd yn ystod y cyfnod clo ac oedi uwchben bedd yn coffáu I.C. Ibrahim o Ahamadabad, India a fu farw yn 1916 yn 35 oed. Bu’n was ffyddlon i’r Cyrnol W.C. Aslett, Plas Bolahaul. Wrth ei ochr roedd bedd y Cyrnol ei hun a fu’n brwydro yn India yn ystod Ail Ryfel Afghanistan ar ran y Fyddin Brydeinig ac a fu farw yn 1936 yn 80 oed.

Yr adnod allan o Lyfr Ruth ar fedd y gwas yn Saesneg oedd wedi tynnu ein sylw, ‘Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di; canys pa le bynnag yr elych di, yr af innau; ac ym mha le bynnag y lletyech di, y lletyaf innau, dy bobl di fydd fy mhobl i, a’th Dduw di, fy Nuw innau.’

Mae’r cyfeiriadau yn yr adnod yn sôn am y berthynas arbennig rhwng dau berson oedd wedi rhannu profiadau mewn cynfod erchyll rhyfel. Lluniodd Geraint gerdd ar ôl yr ymweliad â’r fynwent a darllenwyd hi yn ystod yr oedfa. Cawsom hefyd ddarlleniadau allan o lyfr Ruth ac emynau a chyflwyniadau pwrpasol i fyfyrio am rinweddau megis ffyddlondeb, gofal, caredigrwydd a chariad sy’n berthnasol iawn wrth ffarwelio â 2020 ac ar drothwy blwyddyn newydd.

Dau Fedd
Mehefin 2il, 2020
Gwelais ddau fedd heddiw,
hen feini yn rhesi’r fynwent;
tra bod dinasoedd yn dioddef dan gysgod Mehefin
a phrotest yn cynnau o fflamau marwolaeth George Floyd.

Yno, syllaf ar enw 
‘Colonel Aslett, Indian Army’ unwaith eto,
un o Blas Bolahaul
a’i hanes ym mhridd Eglwys Santes Ann,
dan ganrif o archifau
yn nhristwch a duwch y dydd.

A hi’n fore i fyfyrio,
bum yn ystyried wedyn
ai milwr yn malio
oedd hwn yn ei ddydd?
Neu gafodd ei fedalau ym mrwydrau’r ymerodraeth,
yn rheoli India trwy’r creulondeb
a’r Prydeinio oedd ddihareb bryd hynny?

Ac ar y llain gerllaw,
mae bedd un arall ag anrhydeddau.
Cofeb i Ibrahim o Ahamad-a-bad sydd ar bwys,
gwas i blas yr hen blwyf
a ffrind ffyddlon o’r ffyddlonaf
yn ôl yr adnod o Lyfr Ruth, sy’n glod i un fu mor glên.

Ac yn y cornel drefnwyd gan y cyrnol,
ei feistr am ugain haf estron,
dwy golofn sydd gyda’i gilydd
a reilen o barch o amgylch ei dymor olaf, 
reilen cyfiawnder hiliol.

Un Awst fan hyn, daeth i’w ddilyn a nhw eto’n ddau;
a chlywaf ddau lais yn adleisio,
dwy wlad a dau liw
a dameg dau gydymaith.

Bore heddiw mae angen breuddwyd
â ddoe yn hoelen ar ddynoliaeth,
a Minneapolis yn talu’r pris fydd yn para oes.

Bu eleni’n naddu cydwybod y blynyddoedd
ac erydu ein hygrededd;
y cur hŷn a mwy na’r un Corona.

Oes, mae ‘na ots, yma i ni!
Geraint Roberts

Rhagfyr 2020
Cofiwn a dymunwn yn dda i Eiddwen Davies, un o ddarllenwyr cyson Cwlwm, gynt o Laingotten, Cwmffrwd. Symudodd Eiddwen a Howell ei gŵr i Dre-Ioan yn ddiweddar. Mae Eiddwen wedi treulio cyfnod yn Ysbyty Glangwili ond erbyn hyn mae yn Ysbyty Llanymddyfri. Pob bendith i chi ac i’r teulu i gyd mewn cyfnod gofidus. Cofiwn am bob un o’n haelodau sy’n gaeth i’w cartrefi ar hyn o bryd am wahanol resymau.

Mae’r aelodau yn gwneud eu gorau glas i fynychu’r oedfaon a drefnwyd yn ddiweddar. Cawsom oedfa fendithiol iawn ar Dachwedd 14eg gyda’r aelodau yn cymeryd rhan. Thema’r gwasanaeth oedd ‘y cyfnod clo’ a chawsom gyfle i edrych nôl ac i gofio am ddigwyddiadau misoedd anodd eleni ac i feddwl am bawb a gollwyd ac a ddioddefodd. Cafwyd sylwadau am brofiadau gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol a diolch am eu cyfraniadau gwerthfawr. Trefnwyd yr oedfa gan Huw John.

Hyfryd clywed am ddyfodiad wyres i Heuddwen ac Owen Evans ar Dachwedd 9fed. Ganwyd Elsi Mai i Huw a Julie Evans, Moelfre Isaf, Croes-y-ceiliog, chwaer fach i Millie a Mia ac anrheg Nadolig cynnar i’r teulu. Pob bendith arnynt i gyd.

Tachwedd 2020
Gwasanaeth Cynhaeaf 
Oherwydd y cyfyngiadau cynhaliwyd ein Cwrdd Diolchgarwch blynyddol ar ddydd Sul, Hydref 4ydd o dan arweiniad ein Gweinidog, y Parch Meirion Sewell.

Cydymdeimlad
Daeth y newyddion trist yn ddiweddar am farwolaeth Dilwyn Davies, Ael-y-fro wedi salwch hir a chyfnod byr yn yr ysbyty. Roedd yn ŵr i Gwenda, yn dad i Sian ac Aled, yn dadcu annwyl i Lois, Alfie Jac a Millie Medi ac yn frawd yng nghyfraith parchus i Gareth. Cynhaliwyd yr angladd ar Hydref 6ed a thalwyd y deyrnged iddo gan ei gefnder Arwyn Thomas. Mae nifer ohonom wedi mwynhau ei gwmni dros y blynyddoedd ac wedi profi o’i dalent a’i wybodaeth fel hyfforddwr gyrru ei ysgol ddreifo lwyddiannus.

Cyngor Cymuned
Bydd Cyngor Cymuned Llandyfaelog mewn dwylo diogel dros y ddwy flynedd nesaf gyda dau o aelodau Penygraig yn gadeiryddion y Cyngor o hyn tan 2022. Daeth Meinir James i’r Gadair yn mis Mai eleni yn ystod y cyfnod clo ag Elfyn Williams yn dod yn is-gadeirydd yn yr un cyfarfod. Bydd Elfyn yn dod yn Gadeirydd y Cyngor Cymuned yn mis Mai 2021. Dymuniadau gorau i’r ddau am y flwyddyn.

Cywion Bach
Braf i weld mentergarwch un o’n haelodau, Heather Thomas, Gelli-ddu, yn mynd o nerth i nerth. Enillodd ei meithrinfa ‘Cywion Bach’ 4/4 Ardderchog yn arolwg Gofal Cymru. Mae’n dipyn o dasg a does dim llawer o feithrinfeydd yn llwyddo i gyrraedd y fath safon. Llongyfarchiadau mawr i Heather a’r tîm a dymuniadau gorau i’r feithrinfa i’r dyfodol.

Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau mawr a dymuniadau gorau i Gwyn a Rosemary Jones, Maesdolau , Idole ar ddathlu priodas aur ar Fehefin 6ed yng nghanol y clo mawr. 

Genedigaeth
Llongyfarchiadau mawr i Bethan a Gruffydd Evans, Trefynys, Peniel, ar enedigaeth Mia Haf ar ddiwedd Mehefin. Mae’n siwr bod mamgu a tadcu, Lynne a Dorian Phillips a’r ‘hen-dadcu’   John Y Cwm wrth eu bodd. Dymuniadau gorau i chi deulu bach i’r dyfodol.

Cydymdeimlo
Bu’r wythnosau a’r misoedd diwethaf yn rhai anodd i bawb a thristwch arbennig i ni golli dau o’n diaconiaid o fewn wythnos i’w gilydd ddechrau’r mis. Ein cydymdeimlad dwysaf â phawb gan ddymuno pob nerth yn eich colled.

Ar ddechrau mis Mai bu farw Ronald Thomas, Llancwm gynt, sef brawd Bryan Thomas, Gelli Onnen. Roedd Ronald yn weithgar iawn yn ein cymuned ac yn gyfarwydd iawn i nifer ohonom. Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn eu colled a’u hiraeth.

Yn ystod yr un cyfnod bu farw Mrs Doreen Lewis, Rhodfa Santes Anne, a chynhaliwyd ei hangladd ym mynwent Penygraig dan ofal Parchg. Beti-Wyn James, yn absenoldeb ein Gweinidog fu’n hunan-ynysu yn ystod y cyfnod clo. Ein cydymdeimlad dwys â Ruth a Jonathan a’r teulu oll yn eu hiraeth a’u colled.

Fe gollwyd Bryan Thomas, Gelli Onnen ar Fedi’r 6ed ac mae teyrnged yn ymddangos ar ddiwedd y nodiadau hyn.

Ar fore Sul, 13 Medi bu farw ein diacon hynaf, ac aelod ffyddlon iawn o’r capel, John Thomas a oedd bellach yng Nghartref Gofal Tŷ Mair Felinfoel. Cynhaliwyd ei angladd, ym Mhenygraig ar fore Iau, 24 Medi. Roedd John Thomas, gynt o Brynmeurig, Llangynnwr yn 90 mlwydd oed ac yn ŵr i’r diweddar Winnie a thad annwyl i Eileen, Eirwen a Huw, yn dadcu a hen dadcu addfwyn, yn dad-yng-nghyfraith parchus i’r diweddar Islwyn ac yn ewythr hoffus. Roedd John wedi bod yn amaethu ar hyd ei oes gan dreulio blynyddoedd yn gofalu am diroedd y Coleg ym Mhibwrlwyd. Treuliodd gyfnod yn nghartref gofal Tŷ Mair, Felinfoel wedi cyfnod o salwch. Cofiwn am ddyn hynaws a dihymongar iawn a chynhaliwyd gwasanaeth angladdol hollol breifat yng Nghapel Penygraig ar Fedi 24ain.  

Blin hefyd i nodi i’n Gweinidog, Parchg Meirion Sewell, golli ei frawd yn y cyfnod anodd yma. Cydymdeimlwn yn fawr â Meirion ac Ann a’r teulu oll yn eu colled a’u galar.

Estynnwn ein cydymdeimlad a’n meddyliau hefyd at Geraint Evans, Danygraig, a’r teulu oll ar golli ei fam,  Mrs Mair Evans,  gynt o’r Hendy ond a oedd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin.

Bydded i’r atgofion melys fod yn gysur i bawb yn ystod y cyfnod anodd hyn.

Colli Bryan Gelli Ddu             

Ar ddydd Sul, Medi’r 6ed daeth y newyddion trist bod Bryan Thomas, Gelli Onnen wedi colli ei frwydr ddewr yn erbyn ei salwch creulon ac yntai yn 80 mlwydd oed. Teimlwyd y golled ymhlith y gymuned amaethyddol ar draws Cymru a gwledydd y Deyrnas Unedig ac fe’i theimlir i’r byw yn ei  gymuned ac yn ei Sir Gâr.

Roedd Bryan yn ŵr ffyddlon i Eirlys, tad balch Gareth, Rhodri a’r diweddar Huw, tad-cu cariadus Hannah, Jac, Ben, Bryn a Harri a thad-yng-nghyfraith hoffus Heather a Clare. Roedd yn frawd i’r diweddar Ronald a fu farw ym mis Mai eleni.

Ganed a magwyd Bryan ar fferm Fountain Hall yn nhre Caerfyrddin a symudodd y teulu i Gelli Ddu yn 1953 pan oedd Bryan yn ei arddegau. Yn ystod ei ieuenctid bu Bryan yn hynod o weithgar gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc San Pedr a bu’n gefnogol i’r mudiad trwy gydol ei fywyd. Tra yno bu’n meithrin ei ddawn i siarad yn gyhoeddus a hynny’n feistrolgar yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn y clwb hefyd mae’n siwr y datblygodd ei hiwmor iachus, y direidi a’r cellwair a nodweddai ei gymeriad trwy gydol ei oes.

Dros y blynyddoedd sefydlwyd fferm laeth lewyrchus yn Gelli Ddu â buchesi Ffrisaidd o safon cyn dechrau arbenigo yn y gwartheg Holstein. Cyrhaeddodd Bryan y brig yn genedlaethol am wartheg a daeth yn lais cyfarwydd ar y cyfryngau ac yn enillydd cyson mewn sioeau ac yn  uchel ei barch fel beirniad sioeau amaethyddol. Ym mis Mai 2019 fe’i anrhydeddwyd trwy gael ei ddyrchafu yn Llywydd Cymdeithas Holstein y Deyrnas Unedig. Er ei anhwylder a chyfyngiadau’r covid tuag at ddiwedd ei flwyddyn fel Llywydd, fe gyflawnodd ei swydd yn rhyfeddol wrth fynychu digwyddiadau ar draws Gwledydd Prydain.

Roedd gan Bryan farn bendant a gwybodaeth eang ar faterion amaethyddol a phynciau llosg y dydd ac roedd yn un glew wrth gyflwyno ei safbwynt. Roedd yn ddyn galluog ac enillodd ei gymwysterau a’i brofiad ar erwau Gelli Ddu ac mewn cyfarfodydd pwyllgor yn bell ac agos. Symudodd Bryan ac Eirlys i Gelli Onnen rai blynyddoedd yn ôl er mwyn cael ychydig ymddeoliad. Roedd yn un cadarnhaol ymhob agwedd ar fywyd, yn un cefnogol i bawb ac yn anogwr penigamp. Fe gefnogodd fudiadau ac elusennau lleol a bu’n weithgar a ffyddlon fel diacon yng Nghapel Penygraig ac yn gyn-gadeirydd ar Glwb Cinio Caerfyrddin lle bu’n aelod o’r dechrau’n deg.  Fe frwydrodd ei salwch yn gadarn, yn benderfynol ac yn ddewr gyda chefnogaeth ddi-ffael Eirlys a’r teulu. Mae nifer fawr iawn o bobl wedi colli ffrind da iawn.

Cynhaliwyd y gwasaneth angladdol yng Nghapel Penygraig ar Fedi’r 12fed o dan ofal ei Weinidog y Parch Meirion Sewell. Talwyd teyrnged iddo gan Yr Hybarch Eileen Davies, un o sylfaenwyr elusen Tir Dewi, achos a oedd yn agos iawn at galon Bryan. Rhestrodd lwyddiannau ac anrhydeddau amaethyddol Bryan trwy gydol ei yrfa ac am ei ddawn i ysbrydoli’r ifanc. Roedd yr olyniaeth amaethyddol a’r teulu yn bwysig iddo a darllenwyd yr englyn hwn o’r daflen angladdol er cof amdano.

Er cof am Bryan
I’r olyniaeth bu’n amaethu – i’r glwyd
a thir glas ei Gymru,
hen dalar heddiw’n deulu
llwyddodd ef â’i Gelli Ddu.

Os mai enw Daniel John Bryan Thomas, Gelli Onnen, Heol Bolahaul oedd ar y daflen angladdol, Bryan Gelli Ddu a roddwyd i orwedd ym mhridd mynwent Penygraig ar  brynhawn Sadwrn heulog a thrist ym Medi 2020. 

Desg Lydan
Yn ystod y cyfnod clo yn mis Mehefin cyhoeddwyd cyfrol o farddoniaeth, ‘Desg Lydan’ gan Geraint Roberts. Cyfrol sydd yn ôl y Prifardd Tudur Dylan yn ‘gyfrol hyfryd, ac yn llawn cerddi gafaelgar, sicr eu crefft. Maen nhw’n gerddi fydd yn cyffwrdd y galon ac yn apelio at bawb”. Bu Geraint yn brysur iawn yn gwerthu a dosbarthu’r gyfrol yn yr ardal dros y misoedd diwethaf ag os nad ydych wedi prynu eich copi, mae croeso i chi gysylltu â Geraint i sicrhau’ch copi – 07814701078 neu mae’r gyfrol ar gael o Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin hefyd.

Sgwrs gyda Geraint Roberts
1. Beth am ddechrau yn y dechrau’n deg … y teitl?
Mae’r llun cyntaf a dynnwyd ohonof yn yr ysgol gynradd gyda Gareth, fy mrawd hŷn, y tu ôl i ddesg fawr pan oeddwn yn bump oed. Ychydig flynyddoedd yn ôl lluniais gerdd i gofio dau ffrind ysgol gynradd a fu farw yn ifanc o ganlyniad i ddamweiniau. Yn y gerdd fe gyfeirias at ‘ddesg lydan’ gan i’r ddau gael llun wedi ei dynnu y tu ôl i’r un ddesg. Ond ni wireddwyd y  disgwyliadau ohonynt oherwydd nad oedd ffawd wedi bod yn garedig iddynt. Llwyddais i gael gyrfa hir mewn addysg cyn ymddeol ac roeddwn yn teimlo bod ‘Desg Lydan’ yn deitl priodol i’r gyfrol.   

2. Dwedwch rywbeth am y llun ar y clawr.
Darlun olew o’r ysgol gynradd yn Rhydgaled ger Aberystywth yw’r llun. Paentiwyd y llun gan Garrod fy mrawd yn 1969 pan gaewyd yr hen adeilad cyn symud i ysgol newydd yn Llanfarian. Roedd fy mrawd yn ddisgybl ysgol uwchradd ar y pryd ac aeth ymlaen i fod yn athro celf ac arlunydd. Roeddwn yn byw gyferbyn â’r ysgol ac oherwydd hynny credaf bod y llun yn gweddu’n dda i glawr y gyfrol.  

3. Pryd ddechreuoch chi sgrifennu cerddi?
Datblygodd yr awydd i ysgrifennu cerddi yn hwyr yn fy achos i. Does dim cefndir barddoniaeth gen i ac nid oeddwn wedi astudio Cymraeg yn y chweched dosbarth na’r brifysgol. Tua diwedd saithdegau’r ganrif ddiwethaf mynychais wersi ar y cynganeddion gan Alan Llwyd yn Llanddarog a llwyddais i ysgrifennu ambell englyn. Ar ôl dwy flynedd daeth pethau i ben nes i mi ymuno gyda’r Ysgol Farddol dan ofal Tudur Dylan bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Rwy’n ddyledus iawn i’r Ysgol Farddol am fy rhoi ar ben ffordd.

4. Sut deimlad yw gweld casgliad cyfan yn dod at ei gilydd?
Wedi derbyn y gwahoddiad gan Barddas a llunio’r gyfrol, roedd hi’n deimlad hyfryd i weld fy ngwaith mewn print ac roeddwn wrth fy modd gyda’r dylunio a’r golygu. Roedd hi’n rhyddhad hefyd gan fod y cyfnod clo wedi amharu ar yr argraffu, dosbarthu a gwerthiant. Nid yw’r gyfrol wedi cael lansiad eto heblaw am un rhithiol ar y we.  

5. Beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Mae lleoedd a digwyddiadau yn f’ysbrydoli ac yn aml iawn mae’r awydd ynof i gofnodi digwyddiadau ac ymweliadau. Mae pobl yn gallu bod yn ysbrydoliaeth hefyd. Fe welwch mod i’n wahanol i feirdd go iawn!

6. Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun sy’n dechrau arni?
Ry’n ni i gyd yn wahanol ond mae angen amynedd a dyfalbarhad os am lwyddo a pheidiwch bodloni ar y drafft cyntaf o unrhyw gerdd. Hefyd cofiwch ddarllen gwaith beirdd eraill. 

7. Oes cyfrol arall yn cyniwair?
Does dim englynion a cherddi cyfarch i bobl y fro nac i aelodau’r teulu yn ‘Desg Lydan’. Mae’r mwyafrif o feirdd yng Nghymru yn cyflawni’r swyddogaeth bwysig hon o fod yn fardd bro ac yn fardd llys. Rwy’n siwr bod cyfrol fechan o gerddi cyfarch yn cuddio yn y cyfrifaiadur ‘na yn rhywle. Hefyd bum yn llunio ambell gerdd yn ystod y flwyddyn ryfeddol hon eleni a ches gyfle i bendroni ar themau gwahanol.