Newyddion

Hydref 2024
Cynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf ar Fedi 7fed, sef dyddiad ein taith ddirgel flynyddol. Gyda phawb wedi cyrraedd yn brydlon ac yn awyddus i ddarganfod y cyrchfan anelwyd am y dwyrain a phentref Gorslas. Cawsom ein croesawu gan ddau aelod yn Eglwys San Lleian a chael hanes yr ardal a’r eglwys hyfryd honno. Ymlaen wedyn i Lanymddyfri i weld y gofeb newydd i’r Pêr Ganiedydd o Bantycelyn a chawsom gyfle i ganu un o’i emynau wrth y gofeb hardd. Cawsom ein hatgoffa hefyd am hanes a chyfraniadau gwerthfawr y Ficar Rhys Prichard a Llywelyn ap Gruffudd. Wedi cinio, gadael y dref hynafol ac ymlaen i dref Llanwrtyd a chael croeso arbennig gan Susan Price yn y Ganolfan Dreftadaeth a Chelfyddydau yno. Roedd pawb wedi rhyfeddu wrth glywed Susan yn sôn am yr ymdrech i sefydlu’r Ganolfan . Gem o le a gem o wraig!

Pentref Cilmeri oedd nesaf a chofeb i Lywelyn ein Llyw Olaf. Cafwyd ychydig o hanes y cyfnod ac am farwolaeth Llywelyn ger y fan honno. Ni allem adael y lleoliad arbennig hwn yn ein hanes heb glywed cerdd arbennig ‘Cilmeri’ gan Gerallt Lloyd Owen a gyda’r geiriau ‘fin nos fan hyn’ a’r anthem genedlaethol yn atseinio yn ein clustiau a’n calonnau anelwyd at leoliad ein swper. Roedd staff Yr Arad, Rhosmaen yn barod amdanom a chawsom wledd hyfryd i ddiweddu diwrnod cofiadwy iawn.

Llun o’r aelodau y tu allan i’r Ganolfan Dreftadaeth a Chelfyddydau

Gorffennaf 2024
Atgoffir aelodau a ffrindiau i gysylltu â Geraint a Rhiannon ar gyfer cael lle ar daith ddirgel flynyddol y Gymdeithas Ddiwylliannol a gynhelir ar ddydd Sadwrn, Medi 7fed . . . cyntaf i’r felin.

Mehefin 2024
Cynhaliwyd cyfarfod olaf o’r tymor yng nghwmni Wyn Gruffydd o Langain y sylwebydd chwaraeon. Cafodd groeso cynnes gan Gwenda ein llywydd gan amlinellu rai o uchafbwyntiau ei yrfa ym myd darlledu a chwaraeon. Cafwyd sgwrs ddiddorol ac ysgafn gan Wyn gan ddisgrifio rai o droeon trwstan o’i brofiad wrth sylwebu a’r cymeriadau y bu’n gweithio gydag hwy dros yrfa hir a llwyddiannus. Diolchwyd iddo gan Geraint a bu Gwyneth a Rhiannon yn paratoi’r paned ar ddiwedd y noson wrth gynnal ein cyfarfod blynyddol. Penodwyd Rhiannon yn ysgrifennydd am y tymor newydd yn absenoldeb Glenys Davies sydd wedi cael triniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar. Cynhelir taith ddirgel blynyddol y Gymdeithas ym mis Medi ac edrychwn ymlaen at ddiwrnod hyfryd yng nghwmni ein gilydd wrth ddechrau tymor newydd o weithgareddau.

Ebrill 2024
Cynhaliwyd cyfarfod cynta’r mis ar Fawrth 14eg yng nghwmni dau o’n haelodau, sef Geraint a Rhiannon Roberts, Pengwern. Cafwyd y croeso arferol gan y cadeirydd, Gwenda Davies cyn cael cyflwyniad gan y ddau am eu taith i wlad Wcráin yn 2019. Trwy gyfrwng sleidiau cawsom ein hatgoffa o’u profiadau ac am sefyllfa’r wlad cyn y rhyfel dychrynllyd presennol a chael hanes ei phrif ddinasoedd hardd wrth ddilyn yr afon Dneiper o Kyïv i Odesa ar arfordir y Môr Du. Cafwyd y paned a’r pice arferol dan ofal Gwenda a Gwyneth i ddiweddu’r noson.

Mawrth 2024
Dathlwyd Gŵyl Santes Dwynwen dros swper ardderchog ym Mwyty Myrddin, Coleg Pibwrlwyd a chafwyd cyflwyniad ac ychydig o hanes ar ffilm am Santes y Cariadon gan ein cadeirydd Gwenda Davies. Elinor Goldsmith oedd ein gwestai ar Chwefror 8fed yn disgrifio ei gwaith fel swyddog diogelwch gyda Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Cafwyd cyflwyniad ardderchog ganddi yn pwysleisio elfennau ar ofal a diogelwch yn y cartref gyda thrydan ac offer trydanol. Cynhaliwyd y Noson Gawl arferol i ddathlu Gŵyl Ddewi ar Chwefror 23ain a threfnwyd adloniant i ddilyn y wledd a gafwyd. Diolchodd Gwenda i bawb am eu cyfraniadau ar ddiwedd y noson. 

Chwefror 2024
Yng nghyfarfod y Gymdeithas ar Ionawr 11eg Gwenda Davies gyflwynodd ein gwestai, y Parch Mary Thorley. Nododd gyfraniad enfawr Mary i addysg yn Sir Gaerfyrddin ac yn arbennig i hanes y dref. Trwy gyfrwng sleidiau cawsom gipolwg ar ein gorffennol ac ar y gwragedd rhyfeddol a fu’n cyfrannu i’r gymdeithas ac i Gymru. Soniodd am daith gerdded treftadaeth menywod o gwmpas strydoedd Caerfyrddin a chawsom hanes rhai o’r gwragedd megis Rachel Barrett fu’n ymladd dros hawliau menywod, Mary Marles-Thomas, sefydlodd ysgol i ferched yn Heol y Cei, Dorothea Bate, gwyddonydd yn Llundain ac Elizabeth Phillips Hughes, Pennaeth coleg hyfforddi i wragedd yng Nghaergrawnt a sefydlodd ysbyty gyntaf y Groes Goch. Diolchodd Rhiannon iddi am noson hynod ddiddorol yn clodfori cyfraniad gwragedd. Y tro nesaf y byddwch yn cerdded ar hyd lonydd y dref, cofiwch edrych i fyny i weld y placiau glas sy’n cofnodi’r gwragedd pwysig hyn.

Ionawr 2024
Cynhaliwyd noson o Hawl i Holi ar Ragfyr 14eg gyda’r noson yng ngofal yr holwr profiadol Elfyn Williams. Ar y panel roedd y Cynghorydd Tyssul Evans, Ioan Matthews, prif weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Judith Rees, perchennog cwmni maethu plant sydd hefyd yn aelod gweithgar o’n capel ni. Cafwyd noson hyfryd yn eu cwmni wrth iddynt ymateb i’r cwestiynau amrywiol a chyfoes a anelwyd atynt. Diweddwyd y noson dros baned a diolch i Ann a Gwyneth am baratoi’r lluniaeth. Bydd y cyfarfod nesaf ar Ionawr 11eg pan byddwn yn croesawu Mary Thorley nôl i’r Gymdeithas.

Rhagfyr 2023
Cafwyd noson ddiddorol iawn ar Hydref 26ain gyda Eirwyn Bennett yn rhannu hanes am Ysbyty’r Priordy yng Nghaerfyrddin. Roedd ganddo stôr o wybodaeth am adeilad fu mor bwysig i drigolion y sir am flynyddoedd lawer.

Briallt Williams oedd y gwestai ar Dachwedd 9fed yn rhoi hanes aelodau o’i theulu oedd yn gorfod dygymod â bod yn fyddar. Cawsom noson hyfryd yn ei chwmni wrth iddi ein tywys drwy brofiadau’r byddar a cheisio eu hyfforddi i arwyddo iaith y byddar. Diolchodd Gwenda iddi am gyflwyniad hyfryd a diddorol ac i Gwyneth am drefnu a dymunwyd yn dda i Briallt yn ei swydd newydd yn Adran y Gymraeg Ysgol Bro Myrddin. 

Tachwedd 2023
Bu’r ymweliad â Bwyty Myrddin ym Mhibwrlwyd ar gyfer ein swper diolchgarwch blynyddol yn llwyddiant mawr. Cawsom groeso cynnes yno gan y trefnwyr a’r myfyrwyr ac roedd pawb wedi mwynhau’r arlwy a’r gwmnïaeth ar y noson. Diolchodd Gwenda ein Cadeirydd i bawb am noson ardderchog ac i Gwyneth yr Ysgrifennydd am drefnu’r ymweliad.

Hydref 2023
Mae rhaglen y flwyddyn wedi cychwyn yn barod gyda thaith ddirgel ar Fedi 16eg. Cafwyd diwrnod hwylus iawn wrth deithio i Gapel Hope/Siloh ym Mhontarddulais a chael croeso cynnes gan nifer o’r aelodau uwch baned a chyflwyniadau gan y Gweinidog y Parch Llewelyn Picton Jones a’i wraig Marie Lynne ac Eric Jones. Yna teithiwyd i’r Amgueddfa Forwrol yn Abertawe cyn galw heibio i Gapel Nebo, Felindre a swper i orffen y diwrnod yn Nhafarn Bird in Hand, Fforest. Diolchwyd i Geraint a Rhiannon am drefnu’r daith ac i Gwyneth am y trefniadau. Ein cyfarfod nesaf yw’r Swper Diolchgarwch ym Mwyty Myrddin, Pibwrlwyd ar Hydref 12fed.    

Gorffennaf 2023
Cynhelir y daith ddirgel flynyddol ar Fedi 16eg a gofynnir i aelodau a ffrindiau i gysylltu gyda Gwyneth i sicrhau lle ar y bws.

Ebrill 2023
Dathlwyd Gŵyl ein Nawddsant yn y dull arferol yn y festri ar Fawrth 2ail. Roedd y byrddau wedi’u haddurno â chennin Pedr a’r lluniaeth yn cynnwys cawl a tharten afal. Roedd y cyfan wedi cael ei drefnu gan Heuddwen y Cadeirydd a Gwyneth yr Ysgrifennydd. I  ddiweddu’r noson cafwyd darlleniadau o farddoniaeth gan Geraint gan gynnwys cerdd i Peter Williams, awdur a chyhoeddwr y Beiblau Cymraeg, ar achlysur tri chan mlwyddiant ei eni a diolchwyd i bawb am eu cyfraniadau i noson hyfryd o gymdeithasu.

Ar Fawrth 9fed cawsom ar fyr rybudd gwmni Peter Hughes Griffiths, un sy’n gyfarwydd iawn i’n cynulleidfa. Dewisodd siarad am Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin 1911 ac roedd stôr o wybodaeth ganddo am y digwyddiad hwnnw a llwyddodd i roi darlun o’r cyfnod yn hanes tre Caerfyrddin a Chymru. Diolchodd Gwenda iddo am noson ddiddorol iawn. Cafwyd paned o de i ddiweddu’r noson gan Gwyneth a Rhiannon.    

Mawrth 2023
Dathlwyd Gŵyl Santes Dwynwen yn y modd arferol ar Ionawr 26ain a phawb yn mwynhau’r sgwrsio wrth y byrddau. Ar Chwefror 9fed cafwyd noson hamddenol yn Bowlio Deg yn Nhre-Ioan gyda swper hyfryd i ddilyn yn y Llwyn Iorwg. Diolch i Gwyneth a Heuddwen am y trefniadau ar gyfer y ddau achlysur. 

Ionawr a Chwefror 2023
Ar Dachwedd 24ain cafwyd noson yng nghwmni Geraint Roberts a bu’n darllen rhai cerddi allan o’i gyfrol ‘Desg Lydan’ ac yn esbonio’r cefndir a’r symbyliad i rai o’r cerddi, nifer ohonynt wedi eu sbarduno gan bobl a digwyddiadau lleol.

Ar Ragfyr 8fed teithiodd yr aelodau i Dŷ Llafar, Parc Dewi i gyfarfod â Rhian Evans ac Arwel Fowler. Cafwyd hanes sefydlu’r elusen Llyfrau Llafar ganddynt a chyfle i weld y gwaith arbennig sy’n digwydd gan staff a gwirfoddolwyr yn yr ystafelloedd yno. Diolchwyd iddynt ar ddiwedd yr ymweliad ac i Gwyneth Davies am y trefniadau i ymweld â Thafarn y Tanerdy am swper hyfryd i ddiweddu’r noson.

Yn y llun gwelir aelodau Cymdeithas Penygraig gyda Rhian Evans yn Nhŷ Llafar. 

Cafwyd noson hwylus iawn yng nghwmni Carwyn Graves ar Ionawr 12fed a braf oedd ei groesawu atom gan iddo oherwydd y cyfnod clo fethu ymweld â ni ddwy flynedd yn ôl. Trwy gyfrwng lluniau canolbwyntiodd ar fwydydd Cymreig gan iddo’n ddiweddar ysgrifennu a chyhoeddi llyfr cynhwysfawr ar y pwnc – ‘Welsh Food Stories’. Mae bob amser yn addysgiadol i wrando ar Carwyn yn traethu’n angerddol am ei bwnc ac mae’r gyfrol hon yn dangos ôl ymchwil trylwyr, cyfrol gwerth ei phrynu ac i’w rhoi’n rhodd. Diolch i Glenys a Heuddwen am drefnu’r lluniaeth ar ddiwedd y noson.

Rhagfyr 2022
Croesawodd Heuddwen ein gwestai ar Hydref 27ain, sef y Prifardd Einir Jones o Rydaman ond yn wreiddiol o Ynys Môn. Cafwyd noson hyfryd yn ei chwmni wrth iddi drafod llysiau meddyginiaethol yn ei dull hamddenol sydd mor nodweddiadol ohoni. Menna ac Eirlys oedd â gofal am baned i gloi noson hynod ddiddorol. Cafwyd noson arbennig iawn ar Dachwedd 10fed yng nghwmni Rebecca Jones, Swyddog Diogelu Rhag Twyll gyda Heddlu Dyfed Powys. Ann a Gwyneth oedd yn gyfrifol am y te ar ddiwedd y noson hon.   

Tachwedd 2022
Mae rhaglen y flwyddyn wedi cychwyn yn barod gyda thaith ddirgel ar Fedi 3ydd. Cafwyd diwrnod hwylus iawn wrth deithio i’r cyrchfan yn Nhŷ Ddewi gan alw mewn nifer o lefydd diddorol ar y ffordd. Y bardd Waldo Williams oedd y thema eleni a buom ar bererindod yn dilyn ôl troed y bardd yn y llecynnau a fu’n ysbrydoliaeth i’w farddoniaeth. Cafwyd swper yn Solfach ar y ffordd gartref. Braf oedd cael cwmni Geraint Rees ac yntau ar wellhad wedi triniaeth yn yr ysbyty. Ein cyfarfod nesaf yw’r Swper Diolchgarwch ym Mwyty Myrddin, Pibwrlwyd ar Hydref 13eg.   

Bu’r ymweliad â Bwyty Myrddin ym Mhibwrlwyd ar gyfer ein swper diolchgarwch blynyddol yn llwyddiant mawr a braf oedd dychwelyd yno wedi bwlch mor hir. Cawsom groeso cynnes yno gan y trefnwyr a’r myfyrwyr ac roedd pawb wedi mwynhau’r arlwy a’r gwmnïaeth ar y noson. Diolchodd Heuddwen ein Cadeirydd i bawb am noson ardderchog ac i Gwyneth yr Ysgrifennydd am drefnu’r ymweliad.

Hydref 2022
Mae rhaglen y flwyddyn wedi cychwyn yn barod gyda thaith ddirgel ar Fedi 3ydd. Cafwyd diwrnod hwylus iawn wrth deithio i’r cyrchfan yn Nhŷ Ddewi gan alw mewn nifer o lefydd diddorol ar y ffordd. Y bardd Waldo Williams oedd y thema eleni a buom ar bererindod yn dilyn ôl troed y bardd yn y llecynnau a fu’n ysbrydoliaeth i’w farddoniaeth. Cafwyd swper yn Solfach ar y ffordd gartref. Braf oedd cael cwmni Geraint Rees ac yntau ar wellhad wedi triniaeth yn yr ysbyty. Ein cyfarfod nesaf yw’r Swper Diolchgarwch ym Mwyty Myrddin, Pibwrlwyd ar Hydref 13eg.   

Rhagfyr 2019
Ar Ragfyr 12fed yn ôl ein harfer buom yn dathlu’r Nadolig ac unwaith eto roedd Menna James ac Eirlys Thomas wedi paratoi deunydd yn ein hatgoffa am rai o arferion a thraddodiadau’r Nadolig. Cafwyd noson ddifyr gyda thrafodaeth fanwl am Nadoligau’r gorffennol a’r presennol. Diolchodd Gwyneth iddynt ac i bawb a gymerodd ran a hyfryd oedd cael paned, pancos a mins peis i ddiweddu’r noson. Trefnwyd y lluniaeth gan Yvonne a Rhiannon.

Atgoffir aelodau bydd cyfarfod y Gymdeithas ar Ionawr 23ain sef Swper Santes Dwynwen ychydig yn wahanol i’r arfer wrth i’r aelodau godi arian at Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2021. Mae tocynnau pris £10 ar gael gan Gwyneth ac Anwen.

Eleni eto bu aelodau Penygraig yn weithgar yn Eisteddfod Llandyfaelog fel trefnwyr ac fel cystadleuwyr. Bu’r aelodau yn fuddugol ar yr eitem i gymdeithasau lleol ac ar y parti neu gôr lleol.

Penblwydd arbennig
Dymuniadau gorau i John Thomas, Llangynnwr sydd wedi dathlu ei benblwydd yn 90 oed ar Ragfyr 31ain. Mae John hefyd wedi cael triniaeth yn Ysbyty Glangwili yn ddiweddar. Anfonwn ein cofion cynnes ato wrth dathlu ei benblwydd a gobeithiwn am wellhad buan iddo yn y flwyddyn newydd.

Gwellhad
Braf deall bod Peter Lewis, Moelfre ar wellhad wedi cyfnod yn Ysbyty Glangwili yn ddiweddar.

Tachwedd 2019
Aeth criw o aelodau’r Gymdeithas i ymweld â chanolfan Yr Egin ar Dachwedd 14eg. Cawsom ein croesawu a’n tywys o gwmpas yr adeilad gan Lowri. Roedd pawb wedi mwynhau’r ymweliad a chafwyd cyfle i weld gweithleoedd hynod mewn adeilad â phensaerniaeth sy’n gweddu i’r pwrpasau amrywiol. Bu’n agoriad llygad i nifer ohonom a diolchwyd i Lowri am ei chyfraniad at ymweliad addysgiadol a diddorol. Gwyneth ac Anwen oedd wedi trefnu’r noson a’r lluniaeth wedyn yn Nhafarn y Tanerdy. Diolch iddynt ac i bawb am noson lwyddiannus iawn. 

Hydref 2019
Cynhaliwyd taith flynyddol y Gymdeithas ar ddydd Sadwrn, Medi 21ain a’n cyrchfan eleni oedd Cwm Tawe. Dewiswyd y rhan brydferth hon o’r wald gan fod Medi 27ain yn nodi can mlynedd ers marwolaeth y gantores a’r soprano fyd-enwog Adelina Patti. Cawsom ddiwrnod heulog braf i weld gogoniant y Cwm ac roedd ein ymweliad cyntaf â phentref Craig-cefn-parc a chapel Pant-y-crwys. I’n croesawu yno roedd Jean Bowen a Dewi Lewis a chafwyd cyflwyniad ganddynt am hanes y capel ac am ddau fardd, oedd hefyd yn ddau Archdderwydd, sef William Williams (Crwys) a Dafydd Rowlands a gladdwyd yn y fynwent yno. Wedi paned a sgwrs anelwyd am bentref Ystradgynlais i gyfarfod ein tywysydd ar gyfer y prynhawn, sef Arwel Michael. Cafwyd ganddo dipyn o hanes y pentref cyn ymweld â phentref Cwmgiedd a chael hanes creu ffilm ‘The Silent Village’ a’r cysylltiadau gyda Lidice yn Ngwlad Siec. Yna teithio i gartref Adelina Patti yng Nghraig y nos lle gwelwyd arddangosfa am y gantores enwog cyn cael swper yn Abercrâf a theithio tuag adref. 

Cynhelir swper cynhaeaf y Gymdeithas ar nos Iau, Hydref 10fed ym Mwyty Myrddin, Pibwrlwyd am 6.30yh. Gellir cael gwybodaeth bellach wrth Gwyneth Davies neu Anwen Davies 

Cinio haf
Yn dilyn cymundeb ar ddydd Sul, Gorffennaf 7fed trefnwyd cinio i godi arian tuag at Apêl Madagascar. Diolch i bawb a gefnogodd y fenter ac i staff y Llew Coch am y ddarpariaeth.
Wedi’r ginio manteisiwyd ar y cyfle i longyfarch Bryan Thomas, Gellionnen ar gael ei ddyrchafu yn llywydd Cenedlaethol Gwartheg Holstein UK mewn dathliad arbennig yn Llanelli lle gwelwyd ei deulu, ei ffrindiau a’i gysylltiadau niferus ar draws Gwledydd Prydain yno i’w gefnogi ac i ddymuno’n dda iddo i’r dyfodol.   

Penblwydd hapus
Penblwydd hapus i Violet Elias, Brynvilla, Pentrepoeth ar ddathlu penblwydd yn 90 oed yn ddiweddar ac i Rose Davies, Rhodfa Santes Ann ar ddathlu penblwydd yn 80 oed. Hefyd dymunwn penblwydd hapus i Bryan Thomas, Gellionnen ar gyrraedd yr 80 ac wedi dychwelyd gartref wedi triniaeth yn ysbytai Glangwili a Threforus. Brysia wella Bryan.

Gwellhad buan
Dymunwn wellhad buan i Huw John, Peniel hefyd wedi triniaeth yn ysbyty Treforus yn ddiweddar. 

Llongyfarchiadau
Dros yr haf dderbyniodd Manon James, Croes-y-ceiliog radd M. Phil yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth a dymunwn yn dda iddi yn ei hastudiaethau pellach. Derbyniodd Stephen Davies, yn wreidddiol o Idole, radd uwch hefyd a dymunwn yn dda iddo yntai wrth gychwyn ar yrfa yn Ysgol Gyfun Gŵyr. 
Llwyddodd Geraint Roberts i ennill dwy gystadleuaeth yn adran farddonaieth Eisteddfod Genedlaethol Bro Conwy, sef am yr englyn ac am chwe englyn milwr. 

Gorffennaf 2019
Cofiwch cynhelir taith ddirgel y Gymdeithas ar ddydd Sadwrn, Medi 21ain a gofynnir i aelodau gysylltu gyda Gwyneth Davies i sicrhau lle ar y daith.

Ionawr – Mai 2019

Ebrill 2019
Dathlwyd Gŵyl ein Nawddsant yn y dull arferol ar Chwefror 28ain, a bu’r gwragedd yn brysur yn paratoi lluniaeth yn y festri. Roedd y cawl a’r darten afal wedi plesio eleni eto, a diolchodd Heuddwen, y cadeirydd, i bawb a fu’n weithgar gyda’r bwyd a’r adloniant, am noson hyfryd.
Ar Fawrth 7fed, Steffan Hughes o Beniel oedd ein gwestai, a chafwyd nosos hynod ddiddorol yn ei gwmni wrth iddo olrhain ei yrfa fel athro, ac fel tywysydd i’r athletwraig, Tracey Hinton dros gyfnod hir. Bu Tracey yn cystadlu yn y gemau paralympaidd a llwyddodd i ennil medal yng ngemau Beijiing. Diolchwyd iddo, ac i Glynis a Bethan am y lluniaeth ar ddiwedd y noson.

Mawrth 2019
Yn ôl yr arfer ym mis Chwefror cynhaliwyd noson o Hawl i Holi dan ofal yr holwr profiadol Elfyn Williams. Croesawyd a chyflwynwyd aelodau’r panel gan y cadeirydd, Heuddwen Evans, sef, Gwen Redvers Jones yr awdures doreithiog o Gwmffrwd, Dorian Williams, Cynghorydd Sir a chyn-bennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin o Peniel ac Ivor Davies, ffermwr llwyddiannus sydd wedi ymddeol ac yn byw yn Llangynnwr. Diolchodd y cadeirydd i’r panel am eu cyfraniadau ac i’r aelodau am baratoi lluniaeth.

Chwefror 2019
Dechreuwyd cyfarfodydd y flwyddyn newydd yng Nghanolfan Bowlio Deg, Tre-ioan. Mae’n noson boblogaidd ar ein calendr gyda phawb yn eiddgar i weld pwy sy’n serennu ar y noson. Diweddwyd y noson drwy gymdeithasu dros swper yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg. Ar Ionawr 24ain fe ddathlwyd Santes Dwynwen gyda’r swper blynyddol ac adloniant gan aelodau’r Gymdeithas. Diolchodd y llywydd i Menna ac Eirlys am y trefniadau.

Ionawr 2019
Ar Dachwedd 22ain y Parch Tom Evans, Peniel oedd ein gwestai a chafodd groeso gan Heuddwen Evans y Llywydd. Mae bob amser yn fraint i’w groesawu fel gweinidog i Benygraig ond roedd hi’n bleser cael ei gwmni wrth iddo sôn am ei fagwraeth yn ardal Llambed a’i yrfa fel gweinidog, trefnydd Cymorth Cristnogol, darlithydd yng Ngholeg y Drindod a chaplan gyda Heddlu Dyfed Powys.

Ar Ragfyr 6ed yn ôl ein harfer buom yn dathlu’r Nadolig ac unwaith eto roedd Menna James ac Eirlys Thomas wedi paratoi deunydd yn ein hatgoffa am rai o arferion a thraddodiadau’r Nadolig. Diolchodd y llywydd iddynt ac i bawb a gymerodd ran a hyfryd oedd cael paned, pancos a mins peis i ddiweddu’r noson.

Bydd aelodau’r Gymdeithas yn teithio i Dre-ioan ar Ionawr 10fed i’r ganolfan Bowlio Deg. Edrychwn ymlaen at y gystadleuaeth flynyddol hon ac i’r swper fydd yn dilyn yn y Llwyn Iorwg.


Hydref – Rhagfyr 2018

Rhagfyr 2018
Bu’r aelodau yn cynnal Swper Diolchgarwch sydd bellach yn rhan annatod o raglen y Gymdeithas a chawsom groeso cynnes a bwyd o’r safon uchaf gan fyfyrwyr Coleg Sir Gâr ym Mwyty Myrddin, Pibwrlwyd. Diolchwyd iddynt ac i’r ysgrifenyddion am y trefniadau.

Ar Hydref 25ain croesawyd Rhys Evans a’i wraig Amy i’n plith i sôn am eu hymweliad â Malawi ar gyfandir Affrica. Cafwyd gair o groeso gan Heuddwen Evans ein cadeirydd, sydd yn fam i Rhys. Bu’r ddau yn dangos lluniau o’r ardal lle buont yn gwneud gwaith elusennol yn helpu i wella bywydau’r trigolion. Dangoswyd i ni hefyd ychydig o gynnyrch a chrefftau’r wlad. Roedd yn amlwg wrth i’r ddau siarad am eu profiadau eu bod wedi cael eu swyno gan y wlad a’i phobl a’u bod fel pâr ifanc wedi cael profiadau ac atgofion a fydd yn aros yn hir yn y cof. Diolchwyd iddynt gan Geraint ac uwchlaw paned ar ddiwedd noson cafwyd cyfle i ganu a dymuno penblwydd hapus iawn i Huw John ar gyrraedd carreg filltir nodedig iawn.

Ar Dachwedd 8fed trefnwyd ymweliad ag Oriel Bevan Jones sy’n rhan o waith yr elusen Gofal Celf yn Stryd y Brenin. Cawsom groeso cynnes gan Gyfarwyddwr yr Elusen, Chris Ryan a amlinellodd brif weithgaredd yr elusen, sef cynnig profiadau yn y celfyddydau i bobl ac anawsterau ac sydd yn dioddef salwch meddwl. Yna drwy gyferio at gyfoeth o waith celf oedd wedi ei arddangos gan artistiaid sydd yn gweithio i’r elusen, soniodd Eiryl George am bwrpas ac amcanion yr Oriel. Cafwyd swper hyfryd gyda’n gilydd yn Nhafarn Y Tanerdy i gloi noson addysgiadol a phleserus.

Hydref 2018
Bu’r daith flynyddol yn ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd a chafwyd diwrnod da iawn ar ddydd Gwener y Cadeirio. Diolch i Menna ac Eirlys am drefnu’r ymweliad. Yn ystod yr wythnos derbyniodd Eirwen Jones, Ffrwdwen dystysgrif ac anrhydedd mewn seremoni a drefnwyd gan y Gymdeithas Eisteddfodau am ei chyfraniad a’i chefnogaeth i Eisteddfod Llandyfaelog dros gyfnod o ddeugain mlynedd.

Edrychwn ymlaen at ddathlu Swper Cynhaeaf y Gymdeithas ar Hydref 11eg am 6.30 yr hwyr ym Mwyty Myrddin, Pibwrlwyd.


Ionawr – Ebrill 2018

Ebrill 2018
Yn ôl yr arfer ym mis Chwefror cynhaliwyd noson o Hawl i Holi dan ofal yr holwr profiadol Elfyn Williams. Croesawyd a chyflwynwyd aelodau’r panel gan y cadeirydd, Geraint Roberts sef, Ann Morgan, cyn-bennaeth Saesneg Ysgol y Strade, Aled Davies, pennaeth Ysgol Llangynnwr a Colin Evans, ffermwr llwyddiannus o Bancyfelin a Chadeirydd Sioe Laeth Cymru ac un a fagwyd yng Nghapel Penygraig. Roedd y cwestiynau yn amrywiol ac yn gyfoes a chafwyd sylwadau treiddgar gan y tri. Rhoddodd yr holwr gyfle i’r gynulleidfa ymateb ac ar ddiwedd y noson dros baned o de cafwyd cyfle pellach i gael sgwrs. Diolchodd y cadeirydd i’r panel am eu cyfraniadau ac i’r aelodau am baratoi lluniaeth. 

Dathlwyd Gŵyl Ddewi ar Chwefror 22ain yn y dull arferol drwy gynnal Noson Gawl a braf oedd dod ynghyd i gofio neges Dewi Sant ac i gymdeithasu a chael ychydig hwyl. Diolchodd y Cadeirydd i’r rhai a fu’n paratoi’r lluniaeth.

Ar Fawrth 8fed trefnwyd noson ymweld â Stiwdio Tinopolis yn Llanelli i fod yn y gynulleidfa ar gyfer darlledu rhaglen ‘Heno.’ Cafwyd paned a chroeso arbennig gan y staff a chyfle wedyn i gwrdd â Chris, un o gyflwynwyr y tywydd, a deall sut oedd y rhagolygon tywydd yn cael ei gyflwyno. Yn y stiwdio wedyn cafodd Heulwen a Menna eu dewis i siarad gyda Llinos y gyflwynwraig a chafwyd cyfle i brofi darllediad o’r rhaglen. Roedd pawb wedi mwynhau’r ymweliad yn fawr iawn ac aed ymlaen wedyn i Borth Tywyn i fwynhau swper hyfryd yn nhafarn Y Cornish. Diolchodd y Cadeirydd i’r Ysgrifenyddion am y trefniadau.

Delyth Evans o Rydargaeau oedd ein gwestai ar Fawrth 22ain. Cafodd ei chyflwyno gan yr Is-gadeirydd, Heuddwen Evans fel Trysorydd Cyfeillion Ysbyty Glangwili. Cawsom ganddi ychydig o’i chefndir a hanes ei gyrfa lwyddiannus iawn. Mae’n amlwg bod ei phrofiadau amrywiol wedi cyfrannu tuag at ddatblygiad person sydd wedi cefnogi elusennau a gwneud cymaint o waith gwirfoddol dros nifer o flynyddoedd erbyn hyn. 

Cafwyd ganddi fraslun o waith a phwrpas Cyfeillion Glangwili a sut oedd cyfraniadau bach a mawr wedi llwyddo i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff yn yr ysbyty. Cafwyd noson bleserus yn ei chwmni ac mae’n anhygoel meddwl fod criw bychan o bobl yn llwyddo i godi arian i wella cyfleusterau ein hysbyty lleol. Ar ddiwedd y noson cyflwynywd rhodd yn enw’r Gymdeithas i’r Cyfeillion.

Mawrth 2018
Yn ôl yr arfer ym mis Chwefror cynhaliwyd noson o Hawl i Holi dan ofal yr holwr profiadol Elfyn Williams. Croesawyd a chyflwynwyd aelodau’r panel gan y cadeirydd, Geraint Roberts sef, Ann Morgan, cyn-bennaeth Saesneg Ysgol y Strade, Aled Davies, pennaeth Ysgol Llangynnwr a Colin Evans, ffermwr llwyddiannus o Bancyfelin a Chadeirydd Sioe Laeth Cymru ac un a fagwyd yng Nghapel Penygraig. Roedd y cwestiynau yn amrywiol ac yn gyfoes a chafwyd sylwadau treiddgar gan y tri. Rhoddodd yr holwr gyfle i’r gynulleidfa ymateb ac ar ddiwedd y noson dros baned o de cafwyd cyfle pellach i gael sgwrs. Diolchodd y cadeirydd i’r panel am eu cyfraniadau ac i’r aelodau am baratoi lluniaeth. 

Chwefror 2018
Dechreuwyd cyfarfodydd y flwyddyn newydd yng Nghanolfan Bowlio Deg, Tre-ioan.  Mae’n noson boblogaidd ar ein calendr gyda phawb yn eiddgar i weld pwy sy’n serennu ar y noson.  Diweddwyd y noson drwy gymdeithasu dros swper yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg. Ar Ionawr 25ain fe ddathlwyd Santes Dwynwen gyda’r swper blynyddol ac adloniant gan aelodau’r Gymdeithas. Diolchodd y llywydd i Menna ac Eirlys am y trefniadau.

Ionawr 2018
Ar Ragfyr 7fed Gwilym Francis oedd ein gwestai a chafodd groeso gan y Cadeirydd i ddangos ffilmiau o deithiau a wnaeth dros y blynyddoedd. Cafwyd noson ddiddorol ganddo a dangoswyd lluniau yn cynnwys pobl o’r ardal. Mae aelodau’r Gymdeithas yn gyfarwydd â gweld Gwilym â’i gamera gan ei fod wedi bod ar sawl taith ddirgel gyda ni. Diolchodd Elfyn iddo ac i’r aelodau a gymerodd rhan ar ddechrau’r cyfarfod am noson hyfryd ac uwchben paned o de cafwyd cyfle pellach i sgwrsio a hel atgofion. Atgoffwyd pawb am y Bowlio Deg ar Ionawr 11eg a’r swper i ddilyn yn y Llwyn Iorwg.